Ewch i’r prif gynnwys

Ymddygiad er lles yr amgylchedd

21 Awst 2012

Environmental Behaviour

Bu'r Athro Greg Maio a thîm o ymchwilwyr o'r Ysgol Seicoleg yn asesu canlyniadau dweud wrth bobl am fanteision ariannol rhannu ceir ac effaith hynny ar gyfraddau ailgylchu.

Gofynnwyd i 80 o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddarllen datganiadau am rannu ceir. Dywedwyd wrth un grŵp ei fod yn arbed arian, dywedwyd wrth ail grŵp ei fod o les i'r amgylchedd ac ni ddywedwyd yr un o'r ddau beth wrth grŵp rheoli. Gofynnwyd iddynt hefyd gael gwared ar ddalen wybodaeth ar ddiwedd y sesiwn. Roedd bin metel bychan yn yr ystafell, a ddefnyddir ar gyfer gwastraff cyffredinol fel arfer, yn ogystal â chynhwysydd cardbord uchel oedd â logo ailgylchu mawr arno.

Cymerodd 50 o fyfyrwyr ychwanegol ran mewn ail fersiwn o'r arbrawf. Fe'u rhannwyd yn dri grŵp arbrofol fel y rhai yn yr arbrawf cyntaf, yn ogystal â grŵp a gafodd ei hysbysu am y manteision amgylcheddol ac ariannol fel ei gilydd.

Dangosodd y tîm fod y cyfraddau ailgylchu'n dibynnu ar y wybodaeth am rannu ceir a roddwyd i'r rhai a gymerodd ran. Yn y naill arbrawf a'r llall, gwelwyd nad oedd y rhai a gafodd resymau ariannol dros rannu ceir, neu resymau ariannol ac amgylcheddol, yn ailgylchu mwy na'r rhai na chafodd unrhyw resymau dros rannu ceir. I'r gwrthwyneb, roedd y rhai a gafodd resymau amgylcheddol dros rannu ceir yn ailgylchu llawer mwy na'r rhai na chafodd unrhyw resymau dros rannu ceir.

Meddai'r Athro Maio: "Mae ymgyrchoedd sy'n hyrwyddo ymddygiad sydd o les i'r amgylchedd yn aml yn pwysleisio sut y gall yr unigolyn elwa ar gymryd camau o'r fath. Er enghraifft, gallwn arbed arian drwy osod bylbiau golau ynni isel, bod yn iachach drwy feicio, a bod yn fwy effeithlon drwy weithio ar drên yn hytrach na gyrru. Mae'r pwyslais hwn ar hunan-les yn deillio o'r prif ddull a ddefnyddir wrth farchnata nwyddau masnachol, ond a yw'n addas i ysgogi ymddygiad sydd o les i'r amgylchedd?

"Mae ein canlyniadau'n awgrymu mai drwy amlygu rhesymau amgylcheddol yn unig y bydd neges amgylcheddol yn cael dylanwad cadarnhaol ar fath arall o ymddygiad, a ddangosir yn yr achos hwn drwy'r ffaith fod rhannu ceir yn dylanwadu ar ailgylchu. Mae hyn yn ychwanegu at ymchwil a thystiolaeth flaenorol am werthoedd cymdeithasol, sy'n awgrymu y bydd canolbwyntio ar werthoedd cyffredinol, megis manteision i'r amgylchedd, yn dylanwadu ar ac yn hyrwyddo mathau eraill o ymddygiad cyffredinol, mewn ffordd nad yw'n wir drwy ganolbwyntio ar hunan-les."

Cyhoeddir y papur, Self-interest and pro-environmental behaviour(Evans, Maio, Corner, Hodgetts, Ahmed a Hahn) yn y cyfnodolyn Nature Climate Change.

Rhannu’r stori hon