Ewch i’r prif gynnwys

Canmoliaeth i Ymgyrch Ffynnu

9 Tachwedd 2012

Thrive

Mae ymgyrch Ffynnu'r Brifysgol, sy'n cael ei defnyddio i recriwtio israddedigion, wedi ennill canmoliaeth gan y diwydiant marchnata.

Enillodd y Brifysgol ganmoliaeth yng nghategori 'Gwefan neu Ymgyrch yn y Sector Cyhoeddus' Gwobrau Dadi.

Mae'r 'Dadis' (gwobrau The Drum ar gyfer y diwydiannau digidol) yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ddigidol. Mae'r gwobrau, sy'n cael eu cynnal am y chweched blwyddyn, yn dod ag unigolion a chwmnïau blaenllaw yn y maes digidol at ei gilydd.

Datblygwyd ymgyrch Ffynnu'r Brifysgol gan yr asiantaeth cyfathrebiadau digidol, Precedent, er mwyn cynyddu'r nifer o geisiadau y mae'r brifysgol yn eu derbyn gan fyfyrwyr gorau a mwyaf galluog y wlad.

Dywedodd Sandra Elliott, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol: "Mae canmoliaeth Dadi yn gydnabyddiaeth dda iawn i Ffynnu. Nod Ffynnu yw ail-ffocysu neges y Brifysgol i ddarpar israddedigion. Mae Ffynnu yn siarad â myfyrwyr yn eu hiaith eu hunain ac ar eu telerau eu hunain. Mae'r ymgyrch yn gwneud defnydd llwyddiannus o ddirgelwch, arloesedd a phwyslais ar gyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â myfyrwyr o'r radd flaenaf mewn ffordd sy'n mynd tu hwnt i dechnegau recriwtio traddodiadol."

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Lindsay Herbert, Pennaeth Marchnata Digidol Precedent: "Rydym ni'n falch iawn o dderbyn cydnabyddiaeth y diwydiant ar gyfer yr ymgyrch, sydd wedi bod mor llwyddiannus o ran recriwtio israddedigion yn effeithiol, gan ei fod yn profi ymhellach bod modd cyflawni pethau mawr trwy ddefnyddio cyllidebau bychain yn ddoeth.

"Roedd y prosiect yn ganlyniad ymdrech hynod gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd a Precedent, gan ddefnyddio asedau presennol y Brifysgol i greu rhywbeth arbennig, a brand fyddai'n galluogi Prifysgol Caerdydd i achub y blaen ar y gystadleuaeth."

Mae ymgyrch Ffynnu hefyd yn cael sylw yn Symposiwm Blynyddol Awdurdod Marchnata America dros Farchnata Addysg Uwch.