Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr o New Delhi yn ennill Ysgoloriaeth y Jiwbilî

20 Awst 2012

Udita Bhalla
Udita Bhalla

Bydd Ms Udita Bhalla, ysgolhaig o New Delhi yn India, yn ymuno ag Ysgol Fusnes Caerdydd ym mis Medi i gyflawni MBA gydag ysgoloriaeth lawn a ddyfarnwyd gan y Cyngor Prydeinig.

Cyflwynwyd y rhaglen ysgoloriaeth, a ariennir gan y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth y DU, i ddarparu cymorth ariannol i 60 o fyfyrwyr o India i gyflawnio gradd Meistr mewn Rheoli, Gwyddoniaeth a Thechnoleg neu Weithgynhyrchu mewn sefydliad addysg uwch yn y DU, ac interniaeth fer yn y DU i ddilyn. 

Cyflawnodd y Cyngor Prydeinig broses ddethol drwyadl yn India, gyda chymorth panel arbenigol o uwch addysgwyr ac academyddion. Barnwyd yr ysgolheigion ar sail eu teilyngdod academaidd, uchelgeisiau proffesiynol, a'u potensial creadigol ac arwain.

Dywedodd Ms Bhalla. "Mae'n fraint ac yn anrhydedd ennill Ysgoloriaeth y Jiwbilî gan Lywodraeth Prydain ar achlysur Jiwbilî Diemwnt y Frenhines. Bydd yr ysgoloriaeth yn fy ngalluogi i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n adnabyddus am ei chymuned academaidd fywiog a'i chyfadran ragorol. Mae MBA Caerdydd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer byd lle mae mentrau busnes, y celfyddydau creadigol a phryderon cymdeithasol yn fwyfwy cysylltiedig a chyd-ddibynnol. Rwy'n hyderus y byddaf yn elwa'n fawr iawn o'r MBA yng Nghaerdydd, yn bersonol ac yn broffesiynol."

Dywedodd Dr Fiona Davies, Cyfarwyddwr Recriwtio Myfyrwyr Ysgol Fusnes Caerdydd, "Mae hwn yn gyfle gwych i'r myfyriwr. Rydym yn dymuno pob hwyl i Ms Bhalla yn ei hastudiaethau yn yr Ysgol Fusnes, ac yn edrych ymlaen at ei chroesawu i Gaerdydd ym mis Medi. Rydym yn dyfarnu nifer o ysgoloriaethau i fyfyrwyr rhyngwladol a byddem yn annog darpar fyfyrwyr i fynd i'n gwefan i weld beth y mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn ei gynnig.'

Rhannu’r stori hon