Ewch i’r prif gynnwys

Cynorthwyo meddyliau mwyaf disglair Cymru

12 Tachwedd 2012

Supporting Wales’ brightest minds

Croesawodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart AC, y cyhoeddiad y bydd mwy o gyllid yn cael ei roi i gynorthwyo ymchwilwyr mwyaf dawnus Cymru.

Sicrhawyd parhad ac ehangiad Crwsibl Cymru, sef rhaglen datblygu personol, proffesiynol ac arweinyddiaeth ar gyfer arweinwyr ymchwil addawol y dyfodol, diolch i gyllid dwy flynedd ychwanegol gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a'r Grŵp Dydd Gŵyl Dewi o brifysgolion.

Bydd cyllid o £225,000 yn sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o'r meddyliau mwyaf disglair o bob disgyblaeth yn gallu dod at ei gilydd i archwilio ac ehangu eu gallu creadigol a'u potensial i ddatrys problemau, ac yn y pen draw, helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol sy'n wynebu cymdeithas.

Wrth siarad mewn digwyddiad dathlu yn y Senedd ym Mae Caerdydd, dywedodd y Gweinidog Busnes, Edwina Hart: "Mae mentrau fel Crwsibl Cymru, a fydd yn datblygu ymchwilwyr mewn nifer o amgylcheddau gwahanol, yn weithgareddau allweddol ar gyfer nawr a'r dyfodol, ac mae'n gweddu'n dda â'n huchelgeisiau ar gyfer gwyddoniaeth yng Nghymru, ac rwy'n ei chefnogi'n frwd.

Yn seiliedig ar y bartneriaeth rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe, roedd Crwsibl Cymru ar gael yn wreiddiol i brifysgolion ymchwil Grŵp Dydd Gwyl Dewi ac ymchwilwyr a oedd yn gweithio mewn BBaChau. Bydd y cyllid hwn yn golygu bod Crwsibl Cymru bellach ar gael i unrhyw un sy'n cyflawni gwaith ymchwil rhagorol yng Nghymru ym mhrifysgolion Cymru, a sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

"Rwy'n falch iawn gweld y bydd Crwsibl Cymru ar agor yn fuan, nid yn unig i'n holl brifysgolion, ond i'n cymuned ymchwil gyfan, gan gynnwys pobl sy'n gweithio yn y diwydiant a'r sector cyhoeddus.

"Bydd cael y gorau o'r ddau fyd trwy gymysgu cywirdeb a rhagoriaeth academaidd â sgiliau a galluoedd ymchwil diwydiannol penodol yn allweddol i ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol."

Mae nifer o gydweithrediadau rhyngddisgyblaethol a thraws-sefydliadol cyffrous ac arloesol eisoes wedi cael eu creu ledled Cymru, sydd wedi arwain at arloesiadau cartref, fel y 'smart pill' i helpu i roi diagnosis o anhwylderau gastroberfeddol; app digidol i fynd i'r afael â gordewdra; a chymhwysiad iPad i alluogi pobl nad ydynt yn arbenigwyr i ddeall canlyniadau newid yn yr hinsawdd yn y parth arfordirol.

Dywedodd Cadeirydd Grŵp Llywio Crwsibl Cymru, yr Athro Peter Halligan, a Deon Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru. Gan fod prifysgolion Cymru'n parhau i fod yn un o'r peiriannau ymchwil ac arloesedd brodorol prin ar unrhyw raddfa arwyddocaol, mae gennym rôl ganolog i'w chwarae o ran adeiladu canolfan ymchwil gref a deinamig sy'n gallu cynorthwyo datblygiad economaidd a chenedlaethol Cymru. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn golygu ein bod ni'n gallu darparu rhaglen gwella gyrfa i arweinwyr ymchwil y genedl yn y dyfodol. Yn wahanol i gyrsiau mwy traddodiadol, bydd llwyddiant terfynol y rhaglen yn cael ei fesur yn ôl nifer y cydweithrediadau a phartneriaethau arloesol, ac mae nifer ohonynt eisoes yn dechrau ymddangos rhwng ymchwilwyr."

Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: "Mae CCAUC yn falch iawn cynorthwyo'r fenter arloesol a phwysig hon. Mae gan Crwsibl Cymru rôl werthfawr o ran hyrwyddo diwylliant o waith traws-ddisgyblaethol a thraws-sefydliadol ymhlith ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa neu yng nghanol eu gyrfa yng Nghymru, sy'n fwyfwy hanfodol ar gyfer perfformiad ymchwil o ansawdd uchel. Rydym wedi cael ein hannog yn fawr gan gyflawniadau Crwsibl Cymru hyd yn hyn, a chan frwdfrydedd amlwg y cyfranogwyr, ac rydym yn edrych ymlaen at ei lwyddiant parhaus."

Rhannu’r stori hon