Ewch i’r prif gynnwys

Ieithoedd modern

12 Tachwedd 2012

Modern languages
Elan ac Elain, sy’n fyfyrwyr Ffrangeg yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, a Reece o Fangor. Tîm buddugol y Cwis Diwylliant Ewropeaidd.

Daeth darlithwyr a myfyrwyr ieithoedd tramor modern o brifysgolion Caerdydd, Bangor, Aberystwyth ac Abertawe at ei gilydd yn ddiweddar i ddarganfod mwy am astudio ieithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'r digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd ac a ariannwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wedi rhoi mewnwelediad defnyddiol i staff a myfyrwyr i'r buddion a'r cyfleoedd gyrfaol sydd ar gael i fyfyrwyr ieithoedd modern yng Nghymru, a rhoddodd gyfle i ddangos cwmpas y modiwlau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael erbyn hyn.

Dywedodd Elliw Iwan, Swyddog Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd, a drefnodd y digwyddiad: "Amlygodd cyfres o ddarlithoedd bychain a gyflwynwyd gan academyddion o brifysgolion amrywiol ledled Cymru, yr ystod eang o fodiwlau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd y darlithoedd bychain yn cynnwys themâu a oedd yn amrywio o gyfieithu ar y pryd i ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd a hanes y nofel Ewropeaidd - roedd rhywbeth i bawb".

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cwis ieithyddol a oedd yn seiliedig ar y rhaglen deledu Who wants to be a millionaire, a chwis heriol ar Ddiwylliant Ewropeaidd.

Dywedodd Elliw hefyd: "Diolch i'r Coleg Cymraeg am y cyfle i ddod â myfyrwyr a darlithwyr ieithoedd modern cyfwng Cymraeg at ei gilydd i fwynhau digwyddiad hwyliog a diddorol. Yn goron ar y cyfan, cynhaliwyd y cwrs yng Nghanolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd, a oedd yn cynnig cyfleusterau gwych a lleoliad eithriadol. Rydym ni gyd yn disgwyl yn awyddus am y cwrs nesaf".

Rhannu’r stori hon