Ewch i’r prif gynnwys

Ymgais record y byd Tuk Tuk

15 Awst 2012

Tuk Tuk
Nick Gough and Rich Sears at Main Building

Mae myfyriwr gradd o Brifysgol Caerdydd, a helpodd sefydlu The Tuk Tuk Educational Trust, wedi cychwyn ar gymal y DU o daith o gwmpas y byd i hybu a hyrwyddo addysg.

Bydd Nick Gough, sy'n fyfyriwr gradd BSc Economeg (2007) ac MSc mewn Cysylltiadau Rhyngwladol (2008) o Gaerdydd, a Rich Sears yn cyflawni'r daith mewn tuk tuk (sef cerbyd bach gydag ochrau agored a thair olwyn) ac maen nhw'n anelu at sefydlu record y byd ar gyfer y daith hiraf mewn ricsio awtomatig. Mae Prifysgol Caerdydd yn cefnogi'r daith fel y prif noddwr addysg.

Drwy gydol y daith, bydd y tîm yn ymweld â phrosiectau addysgol a datblygu, yn cynnal gwaith ymchwil academaidd ac yn dogfennu'r holl brofiad. Trwy godi ymwybyddiaeth o'r her o wella mynediad byd-eang i addysg yn ystod eu taith, mae Tuk Tuk Travels yn anelu at godi arian ar gyfer prosiectau addysgol ar lawr gwlad mewn cymunedau. Bydd cefnogwyr yr elusen yn gallu neilltuo cyfraniadau ar gyfer mentrau unigryw a gaiff eu hamlygu trwy ffilmiau byr a fydd yn cael eu ffilmio a'u cynhyrchu trwy gydol y daith.

Nick a Rich y tu allan i Adeilad Syr Martin Evans

Dywedodd Sandra Elliott, sy'n Gyfarwyddwr Cyfathrebu a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae graddedigion Caerdydd yn rhoi ysbrydoliaeth bob amser, ac mae'r fenter hon yn sefyll allan yn wirioneddol, ac mae'r Brifysgol yn falch iawn i gefnogi Tuk Tuk Travels. Mae gan Gaerdydd draddodiad hirsefydlog o groesawu myfyrwyr o ledled y byd a bydd y tuk tuk yn ymweld â llawer o'r gwledydd o le y daw ein myfyrwyr. Rydym yn gwybod bod y daioni a ddaw o addysg yn enfawr a dyna pam ein bod ni'n cefnogi Tuk Tuk Travels."

Dywedodd Nick Gough, sy'n fyfyriwr gradd o Ysgol Fusnes Caerdydd a'r Ysgol Astudiaethau Ewropeaidd ac yn gyd-sylfaenydd The Tuk Tuk Educational Trust: "Mae addysg wrth wraidd ein hymdrechion. Credwn fod hyrwyddo addysg i bawb yn grymuso rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw ar y cyrion mewn cymdeithas, gan alluogi iddynt gyflawni eu potensial llawn."

Dywedodd Rich Sears, cyd-sylfaenydd The Tuk Tuk Educational Trust: "Mae arweinwyr y byd wedi ymrwymo i ddarparu addysg gynradd fyd-eang erbyn 2015, ond er gwaethaf yr addewid hwn, mae dros 61 miliwn o blant oedran cynradd ledled y byd yn parhau heb fynediad i unrhyw fath o addysg."

Mae Tuk Tuk Travels eisoes wedi derbyn cefnogaeth gan yr alldeithiwr enwog Syr Ranulph Fiennes, a ddywedodd: "Mae Tuk Tuk Travels yn antur unigryw drwy rai o amgylcheddau, diwylliannau a gwledydd mwyaf heriol ac amrywiol y blaned - mae'n addo bod yn fenter na ddylech ei cholli."

Mae'r actor a'r hyrwyddwr hawliau dynol Joanna Lumley hefyd ymhlith y rhai sydd wedi cefnogi'r prosiect. Dywedodd: "Dyma wallgofrwydd ysbrydoledig gyda chalon aur a meddwl fel Aristotle - rwy'n cefnogi Tuk Tuk Travels yr holl ffordd."

Lansiodd tîm Tuk Tuk Travels gymal y DU eu taith o gwmpas y byd yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain cyn cyrraedd Prifysgol Caerdydd, a bydd yn teithio ar draws y DU cyn symud ymlaen drwy Ewrop, Affrica, Asia ac America.

Mae'r tîm wedi dewis teithio o gwmpas y byd mewn tuk tuk er mwyn manteisio ar ei natur araf o ran cyflymder, agored a chyfeillgar, er mwyn archwilio a datgloi gwahanol ddiwylliannau a chymunedau, gan ddysgu am ac o'u gwerthoedd, brwydrau, ysbrydoliaethau ac uchelgeisiau. Mae'r cerbyd ei hun yn eiconig, cyffrous, trawiadol ac atyniadol.

Dilynwch daith y tîm:

Tuk Tuk Travels
Tuk Tuk Travels ar Facebook
Dilynwch Tuk Tuk Travels ar Twitter

Dilynwch gymal y DU Tuk Tuk Travels ar fap byw

Awst 2012
DateLocation
Dydd Llun 13Llundain i Gaerfaddon
Dydd Mawrth 14Caerfaddon i Gaerdydd
Dydd Mercher 15Caerdydd i Taunton
Dydd Iau 16Taunton i Land's End
Dydd Gwener 17Land's End i Sherborne
Dydd Llun 20Sherborne i Rydychen
Dydd Mawrth 21Rhydychen i Fanceinion
Dydd Mercher 22Manceinion i Ardal y Llynnoedd
Dydd Iau 23Ardal y Llynnoedd i Loch Lomond
Dydd Gwener 24Loch Lomond i Bonar Bridge
Dydd Sadwrn 25Bonar Bridge i Fortrose
Dydd Sul 26Fortrose i St Andrews
Dydd Llun 27Eyemouth i Ogledd Swydd Efrog
Dydd Mawrth 28Eyemouth to North Yorkshire
Dydd Mercher 29Gogledd Swydd Efrog i Derby
Dydd Iau 30Derby i Gaergrawnt
Dydd Gwener 31Caergrawnt i Guildford

Cyfanswm y milltiroedd: 2,586

Ar ôl cwblhau cymal y DU, bydd tîm Tuk Tuk Travels yn teithio o gwmpas y byd am 12-14 mis, gan ymweld â dros 50 o wledydd.

Rhannu’r stori hon