Ewch i’r prif gynnwys

Helo a Hwyl fawr

13 Awst 2012

Professor Roger Scully
Professor Roger Scully

Yr Athro Roger Scully yw'r aelod newydd o staff Canolfan Llywodraethiant Cymru. Yma, mae'n dweud wrth Blas am ei hoff leoliad ar y campws a'r hyn y byddai'n ei wneud pe na fyddai'n gweithio yng Nghaerdydd.

Ym mha ran o'r Brifysgol y byddwch chi'n gweithio? Yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi'i lleoli'n bennaf yn ein pencadlys newydd yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, union gyferbyn â'r Cynulliad Cenedlaethol.

Beth fyddwch yn ei wneud yn eich rôl newydd?  Addysgu, ymchwilio, ysgrifennu a chyfathrebu.

Beth oeddech yn ei wneud cyn i chi ymuno â Chaerdydd?  Roeddwn yn Athro'r Gwyddorau Gwleidyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Gyfarwyddwr Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru.

Beth yw rhan orau eich swydd?  Addysgu myfyrwyr brwdfrydig a thrafod â chynulleidfaoedd sy'n ymddiddori yn y ffordd mae Cymru'n cael ei llywodraethu. A gweithio gyda Richard Wyn Jones - Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, a ffrind ers mwy na degawd.

Pe na baech yn eich rôl bresennol, beth fyddech chi'n ei wneud?  Fel y mwyafrif o academyddion prifysgol, mae'n siŵr na fyddwn yn gallu cael fy nghyflogi  tu allan i'r byd academaidd. Wedi dweud hynny, yn ystod yr haf rhwng fy nghwrs gradd a'm cwrs meistr, gweithias fel glanhawr mewn archfarchnad, a dywedodd y bos fy mod yn eithaf da yn gwneud hynny.

Ble mae eich hoff fan ar y campws?  Dydw i ddim wedi bod yma'n ddigon hir i benderfynu. Ond mae'r Amgueddfa Genedlaethol drws nesaf i'r campws, ac rwy'n hoffi hynny'n fawr.

Beth yw eich hoff raglen deledu?  Mae'n well gen i'r radio. Fy hoff raglenni yw I'm Sorry I Haven't a Clue a More or Less.

Ble rydym fwyaf tebygol o'ch gweld y tu allan i'r gweithle?Gartref, neu'n mynd am dro, gyda'r ci yn fy arwain.

Rhannu’r stori hon