Ewch i’r prif gynnwys

Cwrs Calan yn denu bron i 100 o bobl

26 Ionawr 2017

Cynhaliwyd Cwrs Calan gan Cymraeg i Oedolion Caerdydd (Prifysgol Caerdydd), rhwng 7 ac 8 Ionawr 2017 yn Adeilad Hadyn Ellis.

Cwrs adolygu dwys oedd hwn ar gyfer holl lefelau’r ddarpariaeth Gymraeg - Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch. Daeth 98 o ddysgwyr at ei gilydd am ddeuddydd i ymarfer eu sgiliau iaith a chymdeithasu trwy’r Gymraeg.

Cynhaliwyd hefyd sesiynau anffurfiol yn nhafarn y Flora, Cathays, er mwyn i’r dysgwyr sgwrsio dros baned neu beint, ac ymarfer eu Cymraeg ymhellach.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad, Jo Full, Tiwtor Dysgu Anffurfiol, Cymraeg i Oedolion Caerdydd: “Roedd y Cwrs Calan yn gyfle arbennig i’r dysgwyr ddod i ymarfer eu Cymraeg tu allan i’w dosbarthiadau arferol, ynghyd â dod i adnabod a rhannu eu profiadau â dysgwyr eraill. Roedd hi’n hyfryd gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i fwynhau siarad Cymraeg.”

Derbyniodd y Cwrs Calan adborth rhagorol gan y dysgwyr am ansawdd y dysgu ynghyd â safon yr adeilad a’r awyrgylch yn gyffredinol.

Yn dilyn llwyddiant y Cwrs Calan, cynhelir Cwrs Sadwrn ddydd Sadwrn 4 Chwefror 2017, eto yn Adeilad Hadyn Ellis. Mae modd ymrestru trwy fynd i www.learnwelsh.co.uk.

Mae Ysgol y Gymraeg yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn ardal Caerdydd. Mae gan yr Ysgol brofiad helaeth o ddarparu cyfleoedd arloesol i ddysgu Cymraeg a dysgu am ddiwylliant Cymru. Mae Cymraeg i Oedolion yn rhan o ddarpariaeth ehangach sydd yn cynnwys Cymraeg i Bawb (rhaglen yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr y Brifysgol) a’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg (ar gyfer athrawon a chynorthwywyr addysgu).

Rhannu’r stori hon

Darganfyddwch ragor am y cyrsiau Cymraeg i Oedolion sydd ar gael.