Ewch i’r prif gynnwys

Stonewall Leadership Programme 2012 – Call for Applications

13 Awst 2012

Rhaglen Arweinyddiaeth Stonewall yw'r unig gwrs yn y DU sydd wedi'i ddylunio'n benodol ar gyfer arweinwyr talentog lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Eleni, mae'r Brifysgol yn awyddus i ariannu dau aelod o staff i fynychu'r Rhaglen. Yma, mae'r Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-ganghellor, Staff ac Amrywiaeth yn dweud mwy wrthym am y cyfle.

Professor Terry Threadgold
Professor Terry Threadgold

"Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Stonewall yn cynnig y cyfle i gynrychiolwyr gael rhyddid unigryw i archwilio'r effaith mae eu cyfeiriadedd rhywiol yn ei gael ar eu harweinyddiaeth. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt ystyried pam eu bod yn gweithio mewn dull penodol yn y gweithle a sut effaith mae hyn yn ei gael ar eu canlyniadau fel arweinwyr.

Yn ystod y ddau ddiwrnod mae'r rhaglen yn galluogi gweithwyr proffesiynol hoyw i edrych ar eu harweinyddiaeth o ddau bersbectif, eu cyfeiriadedd rhywiol a chyd-destun y gweithle. Mae'n darparu lleoliad lle gall cynrychiolwyr deimlo'n ddiogel wrth drafod sut mae bod yn hoyw yn dylanwadu ar eu profiadau sy'n gysylltiedig ag arweinyddiaeth a'u canlyniadau.

Rydw i'n hynod o falch bod y Brifysgol am ariannu dau aelod o staff i fynychu'r rhaglen sy'n cael ei chynnal ar 22a 23 Tachwedd yn Ysgol Fusnes Ashridge. Bydd uchafswm o ymgeisydd gan bob sefydliad yn cael eu derbyn a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ym mis Hydref.

Mynychodd Karen Cooke, Cadeirydd ENFYS, ein rhwydwaith staff LGBT+, y cwrs ddwy flynedd yn ôl a dywedodd: "Heb amheuaeth, Rhaglen Arweinyddiaeth Stonewall yw'r cwrs datblygu arweinyddiaeth gorau rwyf erioed wedi ei fynychu. Mae'r amgylchedd a grëir ar y cwrs, yr amrywiaeth o bobl rydych yn cyfarfod â nhw o wahanol sectorau a'r cyfle i drafod pwysigrwydd rhywioldeb ac arweinyddiaeth wir yn ei wneud yn brofiad unigryw, ac yn un rwyf wedi elwa ohono'n fawr yn y ffordd rwy'n gweithio ac yn perfformio."

Gofynnir i'r sawl sydd â diddordeb i gael eu henwebu i wneud cais i'r Brifysgol gan ddefnyddio elfennau penodol o'r broses ymgeisio yn unol â gofynion Stonewall:

1.  Anfonwch ddatganiad 850 o nodau (tua 125 gair) gan roi mewnwelediadau personol, dywedwch wrthym am yr hyn sy'n eich ysgogi i wneud cais i Raglen Arweinyddiaeth Stonewall.

2.  550 o nodau (tua 100 gair) Yn eich barn chi, pa rôl sydd gan eich cyfeiriadedd rhywiol yn eich canlyniadau arweinyddiaeth ar hyn o bryd.

3.  450 o nodau (tua 75 gair) Beth ydych chi'n gobeithio'i gyflawni  drwy eich arweinyddiaeth pan fyddwch yn dychwelyd i'ch gweithle?

4. Anfonwch fersiwn un dudalen o'ch CV cyfredol.

Gall staff sydd â diddordeb anfon eu ceisiadau at Karen Cooke drwy neges e-bost at CookeK1@cf.ac.uk neu gyfeirio copïau caled at Karen, Llawr 11, Tŷ McKenzie, 30-36 Heol  Casnewydd, Caerdydd CF24 0DE. 

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Llun 3 Medi 2012. Pan fyddwn wedi derbyn y ceisiadau byddwn yn creu panel bach a fydd yn cael ei gadeirio gennyf fi ac a fydd yn cynnwys aelodau o'r Rhwydwaith Staff LGBT + er mwyn dewis dau o enwebeion.  Yna byddwn yn rhoi cefnogaeth lawn iddynt wrth wneud cais i Stonewall.

Gellir cael mwy o wybodaeth gan Ashley Thomas, Rheolwr Rhaglenni Cleientiaid ac Arweinyddiaeth ar 0207 5931888 neu  leadership@stonewall.org.uk neu wrth gysylltu â Karen Cooke ar Estyniad 70063 neu ar Enfys@cf.ac.uk

Gallwch hefyd lawr lwytho copïau o'r daflen wybodaeth y rhaglen: http://www.stonewall.org.uk/at_work/stonewall_leadership/leadership_programme/default.asp

Mae Stonewall yn awyddus i glywed eich barn!

Fel rhan o'r cais i Fynegai  Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall 2013 mae'r Brifysgol yn awyddus i annog holl aelodau LGBT+ ac aelodau o staff i rannu eu barn ar weithio i Brifysgol Caerdydd gyda Stonewall.  Mae hwn yn rhan hanfodol o'r broses ymgeisio ac mae'r holl sylwadau yn cael eu hanfon  yn uniongyrchol at Stonewall.

I gwblhau'r arolwg staff ewch i:

www.stonewall.org.uk/wei2013/survey a nodwch y cod 605 a fydd yn eich adnabod fel aelod o staff Prifysgol Caerdydd .

Dyddiad cau'r arolwg yw dydd Gwener Medi 14.  Os oes gan unrhyw un gwestiynau am yr arolwg neu Fynegai Cydraddoldeb y Gweithle Stonewall gallwch gysylltu â Karen Cooke, Cadeirydd Enfys (rhwydwaith staff LGBT+) ar enfys@cf.ac.uk neu 70063.

Rhannu’r stori hon