Ewch i’r prif gynnwys

Clirio 2012: Popeth yn glir?

13 Awst 2012

A look back at Graduation 2012

Wrth i filoedd o fyfyrwyr Safon Uwch aros yn eiddgar am eu canlyniadau, mae Pennaeth Recriwtio Israddedigion y Brifysgol, Dave Roylance, yn ateb rhai o gwestiynau Blas ar y system Glirio eleni.

Oes lleoedd ar gael o hyd ym Mhrifysgol Caerdydd? Oes. Yn unol â'r blynyddoedd blaenorol mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal system Glirio er mwyn recriwtio myfyrwyr ychwanegol o'r radd flaenaf. Mae hyn yn newyddion gwych i fyfyrwyr a chanddynt gymwysterau da sy'n chwilio am le yn y brifysgol yr hydref hwn.

Faint o leoedd clirio sydd ar gael? Rydym yn coladu'r wybodaeth hon ar hyn o bryd a bydd gwagleoedd yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan ynwww.cardiff.ac.uk/clearing o brynhawn Mercher Awst 15 ymlaen.

A fydd mwy o leoedd ar gael na'r llynedd? Bydd.  Mae gan y Brifysgol tua 300 o leoedd ychwanegol ar gyfer israddedigion o gymharu â'r llynedd.  Hefyd, mae gennym 300 yn llai o fyfyrwyr sy'n gohirio eu lleoedd, yn wahanol i'r llynedd. Roedd yn llai deniadol i fyfyrwyr ohirio eu lleoedd y llynedd nag ydyw fel arfer oherwydd mae'r sawl a wnaeth hynny nawr yn wynebu ffioedd dysgu uwch. Mae'r ffactorau hyn, yn ogystal ag amgylchedd recriwtio heriol yn golygu y bydd mwy o leoedd ar gael eleni.

Ydy hyn yn golygu bod y Brifysgol wedi ei chael yn anodd wrth lenwi lleoedd eleni? Yn fras, nac ydyw, ond mae'n sicr wedi bod yn fwy anodd, ac i rai ysgolion academaidd byddant yn dibynnu'n fwy helaeth ar y system glirio eleni na'r arfer. Mae'r system ffioedd dysgu uwch a'r system sy'n rheoli nifer y myfyrwyr AAB+ yn Lloegr yn golygu bod y gystadleuaeth yn gryfach i'r myfyrwyr mwyaf galluog. Mae'r ffactorau hyn yn ogystal â'r ffaith bod gan y Brifysgol mwy o leoedd a llai o fyfyrwyr yn gohirio eu lle, yn cyflwyno her.

Fodd bynnag, mae'n galonogol bod diddordeb brwd ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn parhau. Mae'r Brifysgol wedi derbyn mwy na 30,000 o geisiadau UCAS eleni ac rydym wedi perfformio'n well na'n prif gystadleuwyr, gan gynnwys y rhan fwyaf o Grŵp Russell, o ran y newid canrannol mewn ceisiadau a dderbyniwyd eleni. Mae Caerdydd yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd.

Sut mae Caerdydd wedi ymateb i'r cynnydd yn y gystadleuaeth?Yn ystod yr haf y llynedd roeddem wedi rhagweld y byddem yn wynebu amgylchedd recriwtio mwy heriol ar ôl cyflwyno'r ffioedd dysgu uwch a chodi'r "cap ansawdd" AAB yn Lloegr. O ganlyniad gwnaethom gynyddu ein gwaith cyswllt gydag ysgolion a cholegau'n sylweddol a chynnig cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr a'u hymgynghorwyr ymweld â'r Brifysgol.

Hefyd cyflwynwyd yr ymgyrch Ffynnu er mwyn annog mwy o fyfyrwyr galluog a brwdfrydig i nodi Prifysgol Caerdydd fel eu dewis cyntaf. Sefydlwyd grŵp llywio o dan arweinyddiaeth yr Athro George Boyne, Deon yr Ysgol Fusnes, er mwyn cydlynu'r gwaith pwysig hwn ac mae pob ymdrech wedi'i wneud gan staff yr ysgolion academaidd a'r cyfarwyddiaethau er mwyn ymateb i'r heriau allanol. 

Rydw i wedi derbyn ymholiad am y system Glirio, at ble ddylwn eu cyfeirio? Gellir cyfeirio galwadau at y Ganolfan Ymholiadau Clirio: Ffôn029 2087 6000 neu gellir ymweld â gwefan y Brifysgol lle ceir tudalen benodol ar y broses Glirio.

Beth yw amserau agor y Ganolfan Ymholiadau Clirio? Rydym yn rhagweld y bydd llawer mwy o alwadau eleni a  byddwn yn cynyddu nifer y staff a fydd yn delio gyda galwadau i'r Brifysgol yn sylweddol, i 30 o aelodau.  Hefyd bydd ein Canolfan Ymholiadau Clirio ar agor am oriau hirach. Dylid rhoi diolch arbennig i'r holl staff a fydd yn ymwneud â'r broses recriwtio a derbyniadau ac sy'n wynebu wythnos brysur.  Oriau agor y Ganolfan Ymholiadau Clirio yw:

Dydd Iau Awst 16: 7.00am - 8.00pm

Dydd Gwener Awst 17:  8.00am - 8.00pm

Dydd Sadwrn Awst 18: 10.00am - 2.00pm

Dydd Sul Awst 19: 10.00am - 2.00pm

Beth gall ysgolion academaidd ei wneud er mwyn cynyddu eu cyfleoedd o recriwtio myfyrwyr da yn ystod y broses glirio?Mae'n swnio'n syml ond dylid sicrhau bod galwadau ffôn yn cael eu hateb cyn gynted â phosibl. Bydd myfyrwyr yn awyddus i gadarnhau eu lle cyn gynted â phosibl. Byddant yn ffonio'r prifysgolion nes eu bod yn gallu cadarnhau lle addas. Os na fyddant yn gallu cael ateb gan Brifysgol Caerdydd byddwn yn eu colli i brifysgol arall.

Mae'n hanfodol bwysig bod yr ysgolion academaidd yn rhoi cynlluniau ar waith er mwyn ateb cymaint o alwadau â phosibl er mwyn cynyddu eu cyfleoedd recriwtio. Mae rhai ysgolion yn casglu aelodau o staff allweddol ynghyd mewn un lleoliad penodol er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau cyflym, a chyflymu'r gyfradd ymateb i ymholiadau. Maent yn sefydlu grwpiau ffôn er mwyn lleihau'r tebygrwydd y bydd myfyrwyr sy'n ffonio yn cael tôn brysur. Maent yn adleoli mwy o staff ac yn eu hyfforddi'n briodol. Mae nifer o staff wedi mynychu sesiynau hyfforddi canolog ac mae cyngor pellach ar gael wrth dimau recriwtio myfyrwyr a thimau cofrestru. 

Ac ar ôl y broses glirio? Rydym eisoes yn gweithio'n galed ar ymgyrch recriwtio FFYNNU 2013. Rydym yn datblygu mentrau post uniongyrchol, yn uwchraddio'r wefan, ac yn cydweithio ag ysgolion academaidd er mwyn datblygu taflenni marchnata newydd. Rydym hefyd yn paratoi ar gyfer y Diwrnod Agored ar 14 Medi  ac mae mwy na 2000 o ymwelwyr eisoes wedi dangos diddordeb. Nid oes amser i laesu dwylo...

Rhannu’r stori hon