Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg yn ôl at Seremonïau Graddio 2012

13 Awst 2012

A look back at Graduation 2012

"Graddio yw fy hoff adeg o'r flwyddyn. Dyma'r adeg pan fydd myfyrwyr yn cael cyfle i rannu eu cyraeddiadau" Is-ganghellor, Dr David Grant.

Wythnos y Graddio yw un o'r adegau mwyaf prysur ond pleserus y flwyddyn i nifer o staff yn y Brifysgol.

Un o'r prif bethau wnaethom ni ffocysu arno eleni oedd edrych ar ffyrdd y gallwn ddatblygu agweddau llwyddiannus fel ygweddarllediad byw o'r seremonïau graddio er mwyn creu bwrlwm yn ystod yr wythnos a sicrhau bod cyfnod y graddio yn brofiad rhyngweithiol i bawb sy'n rhan ohono.

Am y tro cyntaf eleni gwnaethom  greu Blog Graddio er mwyn rhannu awgrymiadau, atgofion a gwybodaeth ddefnyddiol â graddedigion a'u teuluoedd. Drwy gydol yr wythnos, roedd ein Hadroddwr Graddedigion Alex, o'r Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, yn crwydro'r ddinas ac yn casglu straeon a ffotograffau a'u rhannu drwy'r blog a thrwy negeseuon Twitter @CUGradreporter.

Yn dilyn ei lwyddiant yn ystod y Diwrnod Agored, bu'r Ddraig ar grwydr eto yn ei ysblander graddio, wedi'i wisgo mewn cap a gwn graddio. Roedd yn boblogaidd iawn ymysg pawb, yn tynnu ei lun gyda myfyrwyr a staff a hyd yn oed croesi'r llwyfan i gael ysgwyd llaw. Ar hyn o bryd mae'n mwynhau seibiant haeddiannol ar ôl wythnos brysur, ond mae'n frwdfrydig ynglŷn â'i opsiynau gyrfaoedd ar ôl casglu mwy na 20 gradd wahanol!

Menter newydd arall eleni oedd y Wal Trydar byw, a oedd yn arddangos negeseuon o gefnogaeth a dymuniadau da gan rieni, myfyrwyr presennol, cyn raddedigion a chyflogwyr. Cafodd y wal ei thaflunio  yn Neuadd Dewi Sant ac yn nifer o adeiladau'r Brifysgol drwy gydol yr wythnos a bu'n ffordd hyfryd o anfon negeseuon o gefnogaeth at y graddedigion. Roedd cyfle hefyd i'r graddedigion recordio negeseuon a chymryd ffotograffau mewn Bythau Fideo a ddarparwyd gan y Brifysgol, gan rannu eu hatgofion a'u negeseuon ar fyrddau sialc.

Rhannu’r stori hon