Ewch i’r prif gynnwys

Trysor cudd

6 Awst 2012

Plas Brynkir

Mae prosiect newydd gan Brifysgol Caerdydd yn ceisio darganfod mwy am hanes un o drysorau cudd Gwynedd.

Dan arweiniad yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, dros gyfnod o bedair wythnos, mae'r prosiect ym Mhlas Bryncir yn gobeithio datgelu mwy am y safle a arferai fod yn blasty mawr.

Bydd archwiliad heb gloddio yn canolbwyntio ar y tai uchaf ac isaf ym Mryncir, sy'n dyddio o'r 17g, gan gofnodi cynllun llawr, gweddluniau a chronoleg y tŷ isaf, a'u cymharu â'u cyferbynnu â nodweddion y tŷ uchaf. 'Mae'n ymddangos fod Bryncir yn dŷ a oedd yn cynnwys o leiaf bedwar adeilad gwahanol, wedi'u cysylltu'n lletchwith wrth eu corneli neu'n llwyr ar wahân i adeileddau cyfagos,' meddai'r myfyriwr PhD sy'n arwain y prosiect, Mark Baker.

Bydd archwiliad geoffisegol o'r tir o amgylch y ddau dy yn helpu i gadarnhau a oes unrhyw adeileddau wedi goroesi o dan yr wyneb. Yn ogystal, mae'r safle'n cynnig cyfleoedd unigryw i ymchwilio i agweddau ar bensaernïaeth draddodiadol, yn enwedig y cysylltiad rhwng y ddau blasty. Gallai astudiaeth fanwl o'r rhain daflu goleuni pwysig ar ddyluniad ac adeiladwaith yr adeiladau, yn ogystal ag ar y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer rhannu etifeddiaeth ac agweddau gofodol ar drefniad cymdeithasol.

Mae naw myfyriwr o'r Ysgol yn cymryd rhan yn y prosiect, sy'n cael cefnogaeth y Cyngor Archaeoleg Brydeinig ac sy'n cael ei arwain gan fyfyriwr PhD,  Mark Baker. Nod y tîm yw darganfod a yw Plas Bryncir yn bwysicach yn genedlaethol nag a dybiwyd.

"Gwyddys fod Bryncir o bwysigrwydd lleol a chenedlaethol. O safbwynt lleol, mae'n blasty mawr yng nghanol un o hen ystadau pwysicaf y Gogledd Orllewin.   O safbwynt cenedlaethol, mae'r adeiladau eu hunain, o ran dyluniad a darpariaeth deuluol, yn Gymreig eu natur ac yn unigryw i'r rhanbarth," meddai Mark.

Mae'r prosiect yn rhedeg o 19 Gorffennaf tan 15 Awst 2012. Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd ddarganfod rhagor mewn Diwrnod Agored yn Hostel Ieuenctid Cwm Pennant (hen stablau Plas Bryncir) ar 14 Awst [11am - 4pm] yng Ngolan, Garndolbenmaen, LL51 9AQ.

Awgrymir bod pawb yn dod â phicnic ac yn mynd ar daith o amgylch y safle yng nghwmni myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd.

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn, cynllun Dyddio Hen Dai Cymreig Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Prifysgol Bangor, y Cyngor Archaeoleg Brydeinig, Archifau Gwynedd, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Rhannu’r stori hon