Ewch i’r prif gynnwys

Darlith feddygol gyntaf yn Gymraeg

23 Ionawr 2017

Dr Awen Iorweth delivering Welsh language lecture

Fe gafodd darlith feddygol ei thraddodi yn Gymraeg am y tro cyntaf erioed ddydd Llun, 16 Ionawr, ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fe gyflwynwyd y ddarlith gan Dr Awen Iorwerth, Darlithydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd, mewn darlithfa lawn. Roedd cyfieithu ar y pryd ar gael i fyfyrwyr di-Gymraeg.

Eglurodd Sara Whittam, Rheolwr Datblygu Darpariaeth Gymraeg yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, ac sydd wedi’i hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Yn rhan o’r ddarpariaeth Gymraeg yr ydym yn ei datblygu’n barhaus yn yr Ysgol Meddygaeth, roedd y ddarlith yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth ein holl fyfyrwyr o sut gellir defnyddio’r Gymraeg a phwysigrwydd dwyieithrwydd mewn Meddygaeth..."

"Roedd dros 200 o fyfyrwyr yn bresennol ac mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae llawer o'n myfyrwyr eisiau dysgu Cymraeg, ac maen nhw’n fodlon mynychu dosbarthiadau Cymraeg i Bawb cyn mynd ar leoliadau clinigol."

Sara Whittam Darpariaeth Gymraeg
Two students listening to translation of Welsh language lecture

Ar ôl y ddarlith, dywedodd Nia Williams, myfyriwr meddygol sy'n medru'r Gymraeg: "Roedd yn brofiad a wnaeth i mi ymfalchïo mewn bod yn Gymraes. Roedd yn wych gallu dangos fy mamiaith i fy ffrindiau o dramor."

Group of students listening to translation of Welsh language lecture

Ychwanegodd myfyriwr arall, Alexandra Cawthra: "Roedd y ddarlith yn sicr yn brofiad unigryw. Ro'n i'n gwybod bod llawer o bobl yn chwilfrydig ynghylch sut oedd yn mynd i weithio! Rwy'n credu ei fod yn gam mawr ymlaen i'r Gymraeg ac ro'n i'n falch o gael profiad ohono er mwyn i mi allu paratoi ar gyfer digwyddiadau eraill yn y dyfodol lle defnyddir dwy iaith."

Mae Dr Awen Iorwerth hefyd yn gyfrifol am drefnu cynadleddau de Cymru ar gyfer y Gymdeithas Feddygol a bu ar raglen Doctoriaid Yfory ar S4C. Roedd hon yn gyfres ddogfen bwysig a edrychodd ar sut mae Ysgol Meddygaeth flaenllaw yn paratoi cenhedlaeth newydd o feddygon ar gyfer y gofynion cynyddol a pharhaus yn y GIG. Roedd Greenbay Media yn ffilmio'r ddarlith ar gyfer ail gyfres Doctoriaid Yfory.

Rhannu’r stori hon

O wybodaeth am ysgoloriaethau i gynlluniau ariannu staff, dysgwch mwy am sut gall ein Cangen eich helpu chi.