Ewch i’r prif gynnwys

Green energy solutions

1 Awst 2012

Green Energy

Mae Fusion IP, cwmni masnacheiddio'r brifysgol sy'n troi ymchwil y brifysgol yn fusnes, wedi cyhoeddi cwmni portffolio newydd, Fault Current Limited ("FCL"), a ffurfiwyd o dan ei gytundeb cyfyngol â Phrifysgol Caerdydd.

Mae Fault Current Limited, a sefydlwyd ar ddyfais Dr Jeremy Hall o Ysgol Beirianneg Prifysgol Caerdydd ac eiddo deallusol arloesol a ddatblygwyd yng Nghanolfan Magneteg Wolfson sy'n ganolfan arbenigol yr Ysgol, wedi datblygu cyfyngydd cerhyntau diffygion magnetig unigryw sy'n diogelu rhwydweithiau dosbarthu trydanol cyfleustodau rhag ymchwyddiadau pŵer nas rhagwelwyd. Gall yr ymchwyddiadau pŵer hyn gael eu hachosi gan fethiant offer sy'n heneiddio, tywydd difrifol fel trawiadau mellt, damweiniau neu hyd yn oed gan weithredoedd dinistrio bwriadol. Gall diffygion o'r fath niweidio prif gydrannau drud, ac os na chânt eu clirio'n gyflym, gallant arwain at doriadau trydan hir a chostus.

Yn ogystal, caiff yr angen am gyfyngwyr cerhyntau diffygion ei ysgogi gan gynnydd dramatig yn lefel cerhyntau diffygion system wrth i'r galw am ynni gynyddu ac wrth i fwy o ffynonellau ynni glân, fel ynni gwynt ac ynni'r haul, gael eu hychwanegu at seilwaith trydanol sydd eisoes wedi'i orlwytho.

Yn cael eu defnyddio mewn is-orsaf rhwydwaith trydanol, mae cyfyngwyr cerhyntau diffygion yn systemau Smart Grid a all helpu i ddiogelu'r grid drwy amsugno natur ddinistriol diffygion, gan ymestyn bywyd offer rhwydwaith presennol a galluogi cyfleustodau i ohirio neu ddileu adnewyddu neu uwchraddio offer costus. Mae amcangyfrifon o Ewrop ac UDA yn awgrymu y gall buddsoddi mewn Technolegau Smart Grid, fel cyfyngwyr cerhyntau diffygion, arbed biliynau o ddoleri mewn costau adnewyddu, cynyddu diogelwch, dibynadwyedd ac ansawdd pŵer.

Yn wahanol i gyfyngwyr cerhyntau diffygion cystadleuol sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd, mae ateb unigryw Fault Current Limited yn ddyfais fagnet barhaol 'gosod a gadael' cwbl oddefol, nad oes angen unrhyw bŵer allanol na chyflenwad wrth gefn arni, mae'n ymadfer yn awtomatig pan gaiff diffyg ei glirio ac ychydig iawn o gynnal a chadw sydd ei angen.

Dywedodd yr Athro Phil Bowen, Cyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu, yr Ysgol Beirianneg, "Mae'r Ysgol yn llongyfarch Dr Hall ar yr ail gwmni deillio i ddod allan o'r Ysgol yn y pedair blynedd diwethaf, ar ôl lansiad llwyddiannus Mesuro Ltd yn 2009. Arloesedd yw un o gonglfeini cynnyrch ymchwil yr Ysgol ac rydym yn hynod falch fod technolegau arloesol sy'n cael eu datblygu gan ein hymchwilwyr yno'n cystadlu'n llwyddiannus yn y farchnad, gan gefnogi economi Cymru. Mae hon yn enghraifft ragorol o'r Brifysgol a diwydiant yn gweithio gyda'i gilydd i greu atebion ynni gwyrdd a fydd o fudd i'r gymuned gyfan"

Yn unol â'i gytundeb â Phrifysgol Caerdydd, bydd Fusion yn dechrau gyda 60% o gyfranddaliadau yn Fault Current Limited.

Dywedodd David Baynes, Prif Swyddog Gweithredol Fusion IP: "Mae hon yn enghraifft wych o syniad hynod syml yn cael ei droi yn gynnyrch a allai fod o safon fyd-eang. Edrychwn ymlaen at weithio gyda thîm Fault Current Limited, wrth iddynt ddatblygu'r ateb arloesol hwn i broblem fyd-eang fawr i'r darparwyr rhwydwaith pŵer."

Dywedodd Martin Ansell, Cadeirydd Fault Current Limited: "Mae llywodraethau, rheoleiddwyr a chyfleustodau ledled y byd yn wynebu ymrwymiadau rhwymol i gysylltu cenhedlaeth lân, adnewyddadwy, â seilwaith trydanol sy'n heneiddio a gychwynnwyd dros 100 mlynedd yn ôl. Mae technoleg alluogi fel cyfyngydd cerhyntau diffygion arloesol Fault Current Limited yn hanfodol yn yr ymgais i gyflawni pŵer dibynadwy a bodloni ein heriau ynni glân.".

Rhannu’r stori hon