Ewch i’r prif gynnwys

Y Cwrs Ôl-raddedig Gorau

3 Rhagfyr 2012

Best Performing Postgraduate Course

Enwyd hyfforddiant ôl-raddedig Caerdydd ar gyfer Newyddiaduraeth Papurau Newydd fel y cwrs Ôl-raddedig Addysg Uwch Gorau yn 2011-2012 gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddi Newyddiadurwyr (NCTJ).

Mewn seremoni a gynhaliwyd yn Nottingham, cydnabu'r NCJT gwrs Caerdydd fel y cwrs ôl-raddedig gorau mewn Prifysgol gan fod myfyrwyr Caerdydd yn ennill marciau uwch na'u cymheiriaid ar hyd a lled y wlad.

Derbyniodd Cyfarwyddwr Canolfan Newyddiaduraeth Caerdydd, yr Athro Richard Sambrook, y wobr ar ôl cinio gala yng Nghynhadledd Sgiliau Newyddiaduraeth NCTJ.

Gan siarad am y wobr, dywedodd yr Athro Sambrook: "Mae'r ffaith bod ein myfyrwyr papur newydd wedi cael marciau uwch gan NCTJ nag unrhyw gwrs ôl-raddedig arall mewn prifysgol yn brawf o ansawdd ein hyfforddiant a'n haddysgu.

"Nid dyma'r tro cyntaf i ni ennill y wobr hon ac mae enw da Caerdydd fel arweinydd ym maes hyfforddiant ôl-raddedig yn golygu mwy nag erioed ar gyfer y rhai sy'n awyddus i ddechrau dringo'r ysgol yrfaol.

"Mae rhoi'r sêl bendith hwn i Gaerdydd yn golygu ein bod yn cyflawni ein hamcan yn rheolaidd o ddod o hyd i swyddi ym maes newyddiaduraeth ar gyfer pob un o'n graddedigion sy'n dilyn Diploma/Gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth."

Gan gyflwyno'r gwobrau, dywedodd prif weithredwr NCTJ, Joanne Butcher: "Nid ar chwarae bach y mae ennill achrediad ac ymrwymo'n gyhoeddus i ddarparu'r cyfan y mae ar NCTJ ei angen. Gwyddom pa mor feichus a heriol yw'r safon honno ac yn deall y sylw cyhoeddus sydd ynghlwm wrthi."

Gellir dilyn hyfforddiant ôl-raddedig Caerdydd fel Diploma mewn Newyddiaduraeth sy'n para naw mis neu fel Gradd Meistr mewn Newyddiaduraeth sy'n para am flwyddyn ac mae tri opsiwn ar gael – darlledu, cylchgronau neu bapurau newydd. Mae'r cwrs sy'n seiliedig ar ymarfer yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau y mae eu hangen arnynt ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y cyfryngau modern, ynghyd â gwerthoedd newyddiaduraeth – cywirdeb, gonestrwydd, tegwch a safonau cynhyrchu uchel.