Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogi Cydraddoldeb

3 Rhagfyr 2012

Karen Cooke
Karen Cooke with Vice-Chancellor, Professor Colin Riordan.

Lansiwyd cynllun newydd wedi cael ei lansio er mwyn rhoi'r cyfle i staff ddangos eu cefnogaeth i gydweithwyr lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Mae Karen Cooke, Cadeirydd Enfys, rhwydwaith staff LGBT+ yn esbonio mwy.

"Rydym i gyd am deimlo ein bod yn cael cefnogaeth gan ein cydweithwyr. Gan fod nifer ohonom ni'n treulio mwy o amser yn y gweithle nag yn y cartref, mae teimlo ein bod yn cael ein derbyn ac yn cael cefnogaeth gan ein cydweithwyr yn bwysig iawn.

"Amcan y cynllun Ffrind Enfys yw rhoi'r cyfle i staff nad ydynt yn perthyn i Enfys gefnogi'r gwaith rydym yn ei wneud. Wrth gefnogi'r cynllun a dangos eu Cerdyn Ffrind, mae staff yn rhoi neges gadarnhaol i gydweithwyr LGBT.

"Cefais i'r syniad gan gydweithiwr o Brifysgol Vancouver Island. Roedd ganddi hi brofiad o weithio ar gynllun tebyg a dywedodd hi fod yr effaith a gafodd hyn ar fyfyrwyr LGBT yn eithriadol o fuddiol. Wrth sylwi ar y Cardiau Ffrind, roedd myfyrwyr yn teimlo bod ganddynt aelodau o staff i siarad â nhw, heb orfod poeni am eu hymateb. Mae parhau i greu'r math hwn o amgylchedd yn y Brifysgol yn hynod o bwysig.

"Felly sut ydych chi'n gallu cymryd rhan? Os oes unrhyw un am fod yn Ffrind i'r Enfys gallant anfon e-bost at enfys@cardiff.ac.uk a byddwn yn anfon pecyn gwybodaeth a fydd yn cynnwys Cerdyn Ffrind er mwyn iddynt ei roi mewn lle amlwg. Byddwn hefyd yn eu hychwanegu at restr bostio ac yn eu gwahodd i ddigwyddiadau rydym yn eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, yr un cyntaf fydd ein Mis Hanes LGBT ym mis Chwefror.

"Rwy'n falch iawn o ddweud bod ein His-Ganghellor eisoes wedi dangos ei gefnogaeth ar gyfer lansio cynllun Ffrind Enfys. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd llawer ohonoch yn dilyn ei esiampl wrth ymuno â ni i sicrhau bod ein Prifysgol yn cefnogi cydraddoldeb."

- Karen Cooke, Cadeirydd Enfys, rhwydwaith staff LGBT+

Rhannu’r stori hon