Ewch i’r prif gynnwys

Ymwybyddiaeth am fôn-gelloedd

27 Ionawr 2012

Stem Cell
Fraser Young of The School of Dentistry (left) was awarded a prize for best oral presentation. Fraser is pictured with Dr Alastair Sloan, Head of Tissue Engineering and Reparative Theme at The School of Dentistry.

Mae arbenigwyr mewn ymchwil bôn-gelloedd o ledled y Brifysgol wedi dod at ei gilydd i helpu codi ymwybyddiaeth ynghylch eu gwaith a hyrwyddo mwy o gydweithio mewn ymchwil.

Syniad Dr Lindsay Davies o'r Ysgol Deintyddiaeth yw'r Diwrnod Ymchwil Bôn-gelloedd cyntaf ac fe'i cynlluniwyd i ddod ag arbenigwyr ynghyd, rhannu gwybodaeth ac annog mwy o weithio rhyngddisgyblaethol.

"Mae gan Brifysgol Caerdydd ddigonedd o arbenigedd mewn ymchwil bôn-gelloedd – er hynny, mewn Prifysgol ymchwil dwys fawr fel Caerdydd mae'n anodd dilyn y diweddaraf yn yr amrywiaeth o feysydd ymchwil sy'n cael eu harchwilio, ac felly i rannu ein harbenigedd gyda chydweithwyr o'r un anian ar draws y Brifysgol," dywedodd Dr Davies.

"Mae'r Diwrnod Ymchwil Bôn-gelloedd yn ymgais i oresgyn hyn. Drwy ddod ag arbenigedd ymchwil bôn-gelloedd ynghyd o ledled y Brifysgol, roeddem eisiau codi ymwybyddiaeth am feysydd gwahanol o waith ymchwil a gobeithiwn hyrwyddo datblygiad cydweithredu rhyngddisgyblaethol ar draws yr ysgolion a helpu creu cymuned o ymchwilwyr ag amrywiaeth o arbenigedd y gellir ei rannu," ychwanegodd.

Roedd y digwyddiad agoriadol, a gynhaliwyd gan yr Ysgol Deintyddiaeth, yn dod â myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a chymdeithion ymchwil ôl-ddoethuriaeth ynghyd mewn cyfres o drafodaethau, sgyrsiau a chyflwyniadau posteri.

Hefyd yn ystod y diwrnod bu nifer o siaradwyr blaenllaw yn cymryd rhan, gan gynnwys yr Athro Julie Daniels o Sefydliad Offthalmoleg Coleg y Brifysgol, Llundain, a fu'n trafod ei hymchwil ddiweddaraf ar greu therapi bôn-gelloedd newydd ar gyfer y llygad.

Mae'r Brifysgol eisoes yn adnabyddus iawn am ymchwil bôn-gelloedd.

Llywydd ac enillydd Gwobr Nobel y Brifysgol, Syr Martin Evans, oedd y gwyddonydd cyntaf i nodi bôn-gelloedd embryonig, y gellir eu haddasu ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion meddygol. Mae ei ddarganfyddiadau bellach yn cael eu cymhwyso ym mron pob maes o fiofeddygaeth - o ymchwil sylfaenol i ddatblygu therapïau newydd.

Mae arbenigedd mewn ymchwil bôn-gelloedd canser wedi arwain hefyd at greu'r Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd i helpu adeiladu ar gryfderau presennol Prifysgol Caerdydd mewn gwyddoniaeth sylfaenol, datblygu cyffuriau a therapïau newydd, a chynllunio a chynnal treialon clinigol. Mae'n denu ac yn meithrin doniau ymchwil rhyngwladol yn y maes hwn, o'r lefel uchaf oll hyd at y myfyrwyr ôl-raddedig mwyaf addawol.

Wrth dynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu eiddo deallusol a masnacheiddio therapïau bôn-gelloedd, roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys anerchiadau gan staff Adran Ymchwil a Masnach y Brifysgol yn ogystal â Nick Sleep, Cyfarwyddwr Prosiect gyda Progenteq, sef cwmni sy'n deillio o Brifysgol Caerdydd a ffurfiwyd gan Fusion IP – partner rheoli busnes a buddsoddu'r Brifysgol mewn masnacholi eiddo deallusol, sy'n troi ymchwil o'r radd flaenaf yn fusnes.

Ychwanegodd Dr Davies, a agorodd y diwrnod ac sy'n bwriadu trefnu digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf: "Llwyddodd y digwyddiad i ddod ag arbenigedd ar draws y Brifysgol ynghyd - o ddeintyddiaeth, meddygaeth, fferylliaeth, optometreg a biowyddorau.

"Rydym yn gobeithio y bydd yn helpu sbarduno mwy o gydweithio ac adeiladu cymuned yng Nghaerdydd o ymchwilwyr ag ystod o arbenigedd y gellir ei rannu."

Cynhaliwyd Diwrnod Ymchwil Bôn-gelloedd Prifysgol Caerdydd ar ddydd Iau 26 Ionawr yn Adeilad Michael Griffith, Campws Parc y Mynydd Bychan.

Noddwyd y digwyddiad gan Miltenyi Biotec, VWR Jencons, PAA, Sera Laboratories International ac Ysgol Deintyddiaeth y Brifysgol.

Rhannu’r stori hon