Ewch i’r prif gynnwys

Archwilio gofal llygaid

27 Ionawr 2012

Wopec

Mae'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wedi ymweld â'r ganolfan addysg ôl-raddedig gyntaf ar gyfer optometreg yn y DU - ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Canolfan Addysg Optometreg Ôl-raddedig Cymru (WOPEC) wedi'i lleoli o fewn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ac mae'n darparu cyfleuster pwrpasol ar gyfer addysg gofal llygaid.

Mae'r Ganolfan yn cynnig ystod o gyrsiau ôl-raddedig, a chyrsiau byr ar gyfer proffesiynolion gofal llygaid. Hefyd mae'n darparu hyfforddiant hyblyg ac achredu ar gyfer optometryddion yng Nghymru i gefnogi Menter Gofal Llygaid Cymru (WECI), sydd â'r nod o ddiogelu golwg drwy ganfod clefydau ar y llygaid yn gynnar, a rhoi cymorth i'r rhai sy'n brin eu golwg ac nad yw eu golwg yn debygol o wella.

Mae dros 2,500 o optometryddion yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DU wedi cwblhau cwrs gyda WOPEC ers iddi agor yn 2009.

Dywedodd Lesley Griffiths AC: "Mae ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gyllido gwaith WOPEC i weithredu Menter Gofal Llygaid Cymru (WECI) yn golygu y gall cleifion llygad ledled Cymru gael y driniaeth orau.

"Mae gan WECI ddau nod allweddol. Y cyntaf yw diogelu golwg drwy ganfod clefydau ar y llygaid yn gynnar, a'r ail yw rhoi cymorth i'r rhai sydd â nam ar eu golwg lle nad yw triniaeth bellach yn briodol.

"Mae WOPEC yn darparu cyfleuster pwrpasol ar gyfer addysg gofal llygaid ar gyfer amrywiaeth eang o optometryddion, proffesiynolion cysylltiedig, comisiynwyr gofal iechyd a chwmnïau yn y DU, Ewrop a ledled y byd, ac mae hon yn enghraifft arall o Gymru'n arwain y ffordd ym maes gofal iechyd."

Ychwanegodd Pennaeth yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, yr Athro Tim Wess: "Mae Prifysgol Caerdydd yn falch o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad WOPEC. Mae'n cael effaith amlwg, gan ddod ag addysg ar gyfer optometryddion yn unol â phroffesiynolion gofal iechyd eraill i sicrhau rhagoriaeth ym maes gofal iechyd y llygaid."

Rhannu’r stori hon