Ewch i’r prif gynnwys

Ford yn gyrru’r genhedlaeth nesaf

27 Ionawr 2012

Ford

Mae deg o beirianwyr a gwyddonwyr mwyaf addawol Prifysgol Caerdydd ar fin cael ysgoloriaeth yn rhan o raglen ysgoloriaeth newydd gan Ford sy'n werth £1 miliwn. Cynlluniwyd y rhaglen i annog cenhedlaeth newydd o wyddonwyr y DU yn ogystal â dathlu 100 mlynedd o ymrwymiad Ford at y DU.

Mae Ford wedi dyrannu £100,000 i Brifysgol Caerdydd i ariannu ysgoloriaethau gwerth £10,000 i bob un o'r deg myfyriwr.

Mae Rhaglen Ysgoloriaeth Blue Oval Ford yn rhaglen newydd sy'n cynnig nawdd, dros dair blynedd, i israddedigion o amrywiaeth o gyrsiau peirianneg, gwyddoniaeth, gweithgynhyrchu a thechnoleg ym mhrifysgolion blaenllaw'r DU.

Mae rhaglen yr ysgoloriaethau, a gyhoeddwyd gan William Clay Ford, gor-ŵyr Henry Ford a Chadeirydd gweithredol Cwmni Moduron Ford, yn cydnabod y sgiliau fydd yn hanfodol ar gyfer sylfaen ddiwydiannol Ford yn y dyfodol, y modd y mae economi'r DU yn newid yn ogystal â'r hyn sydd ei angen i gyflawni llwyddiant economaidd hirdymor.

Mae Ford ym Mhrydain yn dathlu 100 mlynedd o fod yn gwmni marchnata a gwerthiant blaenllaw yn y DU. Mae'n atgyfnerthu ei berthynas â gwlad sydd wedi gwerthu mwy o'i geir nag unrhyw gwmni arall am 35 mlynedd yn olynol yn ogystal ag arwain gwerthiant cerbydau masnachol am 46 mlynedd.

Meddai'r Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr Busnes a Phartneriaethau Strategol Prifysgol Caerdydd: "Mae'n bleser gan Gaerdydd gael ei dewis gan Ford yn un o nifer bychan o brifysgolion yn y DU i dderbyn yr ysgoloriaethau newydd a chlodfawr hyn.

"Mae Rhaglen yr Ysgoloriaethau'n dangos gweledigaeth wych gan Ford. Bydd yn cynnig cymorth ariannol hanfodol i ddeg myfyriwr yng Nghaerdydd sy'n astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys peirianneg, gwyddoniaeth, technoleg gweithgynhyrchu, technoleg amgylcheddol, technoleg deunyddiau, mathemateg gymhwysol a gwyddoniaeth gyfrifiadurol.

"Bydd yr ysgoloriaethau hyn yn helpu i annog cenhedlaeth newydd o beirianwyr, gwyddonwyr ac arloeswyr. Mae hefyd yn cadarnhau enw da Caerdydd fel un o brifysgolion blaenllaw'r DU o ran arloesedd - sydd hefyd yn gallu troi rhagoriaeth academaidd yn arferion economaidd ar lawr gwlad."

Bydd yr ysgoloriaethau newydd yn datblygu partneriaethau cyfredol a chydweithrediadau ymchwil rhwng y Brifysgol a safle peiriannau uwch-dechnoleg Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Croesawodd y Gweinidog Busnes. Edwina Hart , y newyddion a llongyfarch y Brifysgol.

Meddai: "Mae Prifysgol Caerdydd i'w llongyfarch am fod yn un o ddwsin o brifysgolion yn unig ledled y DU i gael yr ysgoloriaethau clodfawr hyn fydd yn cynnig cysylltiad hanfodol i raddedigion rhwng gwaith academaidd a byd gwaith. Mae'r Rhaglen hon hefyd yn cryfhau'r cysylltiadau ardderchog sydd rhwng Cymru a Chwmni Moduron Ford.

"Mae Llywodraeth Cymru'n awyddus iawn i gynyddu nifer y graddedigion sy'n astudio Gwyddoniaeth, Technoleg. Peirianneg a Mathemateg. Bydd y rhaglen hon o ysgoloriaethau yn cynorthwyo i gyflawni'r nod hwn a denu graddedigion rhagorol i astudio yng Nghymru."

Mae datblygu Partneriaethau Cyfnewid Gwybodaeth (PCG) rhwng y Brifysgol a Ford wedi bod yn faes arbennig o gryf. Mae PCG wedi'i gynllunio i helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol a chynhyrchiol drwy ddefnyddio gwybodaeth, technoleg a sgiliau'n well.

Drwy greu PCG, mae busnes yn gallu cael gafael ar arbenigedd y Brifysgol drwy gyflogi graddedigion i weithio ar brosiectau o dan gyd-oruchwyliaeth y cwmni a staff academaidd am hyd at dair blynedd.

Yn y PCG diweddaraf, mae arbenigwyr o Ysgol Beirianneg Caerdydd yn cydweithio â Ford i ddatrys anawsterau peirianyddol yn y broses weithgynhyrchu.

Ar hyn o bryd, os na ellir sganio côd bar ar gydran injan unigol, rhaid anfon y rhan yn ôl drwy'r gadwyn gyflenwi at weithgynhyrchydd y rhan (sy'n aml y tu allan i'r DU) – gan oedi cynhyrchu a chostio arian. Mae'r PCG yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio technegau arolygu gweledol newydd i wella prosesau ar draws y safle.

Mae'r gwobrau newydd yn ychwanegu at y nifer cynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau y gall Caerdydd eu cynnig i israddedigion. Mae'r Brifysgol yn buddsoddi dros £4 miliwn o'i harian ei hun mewn ysgoloriaethau a bwrsariaethau eleni ac mae wedi ymrwymo i ofalu bod pawb sydd â'r ddawn i astudio yng Nghaerdydd yn gallu gwneud hynny beth bynnag fo'u hamgylchiadau ariannol. Derbyniodd 37% o fyfyrwyr Caerdydd gymorth ariannol ychwanegol y llynedd.

Mae'r deg ysgoloriaeth ar gael i fyfyrwyr israddedig yn y flwyddyn academaidd nesaf, 2012/2013. Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn bo hir.

Yn y DU, mae Ford yn cyflogi dros 15,000 o bobl yn uniongyrchol; mae gan lawer ohonynt waith tra medrus yn datblygu ac yn adeiladu injans uwch-dechnoleg, tanwydd-effeithlon a CO2 isel, ond mae cadwyn gyflenwi a rhwydwaith gwerthwyr Ford yn cynnal 100,000 o swyddi i gyd.

Mae'r buddsoddiad gwerth £1.5 biliwn gan Ford mewn peirianneg a gweithgynhyrchu carbon isel a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn helpu i gynnal adferiad economaidd y DU ym maes gweithgynhyrchu ac allforio.

Gyda'i gilydd, mae gan ffatrïoedd Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ne Cymru a Dagenham yn nwyrain Llundain yr adnoddau i adeiladu dwy filiwn o injans fel bod un o bob tri o gerbydau Ford ar draws y byd yn cael ei bweru gan injan a adeiladwyd yn y DU.

Canolfan Dechnegol Dunton Ford yn Essex yw'r ganolfan ragoriaeth fyd-eang ymchwil a datblygu ar gyfer trenau pŵer disel yn ogystal â cherbydau masnachol Ewrop.

Dyma'r prifysgolion eraill a ddewiswyd ar gyfer Ysgoloriaethau Blue Oval Ford: Caerfaddon, Bradford, Brunel, East Anglia, Coleg Imperial Llundain, Loughborough, Nottingham, Southampton, Strathclyde, Surrey a Warwick.

Rhannu’r stori hon