Ewch i’r prif gynnwys

Trechu dementia

24 Ionawr 2012

Professor Julie Williams
Professor Julie Williams

Mae un o wyddonwyr mwyaf blaenllaw'r Brifysgol yn cefnogi galwad elusen Clefyd Alzheimer i gynyddu nifer y gwyddonwyr sy'n gweithio ar ddeall yr hyn sy'n achosi dementia.

Mewn adroddiad newydd – Defeating Dementia – a lansiwyd yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos hon, mae Alzheimer's Research UK yn rhybuddio y gallai sylfaen wybodaeth y DU am ddementia sy'n adnabyddus ym mhedwar ban byd gael ei cholli oni bai bod gwyddonwyr yn cael cyfleoedd gwell i ddechrau gweithio yn y maes a pharhau i weithio yno.

Dywedodd yr Athro Julie Williams, Yr Ysgol Feddygaeth: "Buddsoddi yn ein gwyddonwyr campus yn y DU yw'r unig ateb i ddementia: mae ein meddyliau ni yn dibynnu ar eu meddyliau nhw.

"Mae'n amlwg o'r adroddiad hwn nad oes gennym ddigon o wyddonwyr yn gweithio ym maes dementia i fynd i'r afael â'r her anferthol y mae'r clefyd yn ei chyflwyno i gymdeithas.

"Mae'n rhaid i ni, nid yn unig cefnogi ein gwyddonwyr rhyngwladol blaenllaw, ond hefyd annog talent newydd i'r maes, gyda syniadau newydd ac arloesi i'w hychwanegu at ein harfau. Mae'n rhaid i ni oresgyn rhwystrau biwrocrataidd i ymchwil fel y gallwn feithrin yr amgylchedd cywir i wyddonwyr ffynnu."

Yr Athro Williams yw Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Alzheimer's Research UK, ac yn genetegwr y mae ei chanfyddiadau, i ganfod genynnau risg newydd o ran clefyd Alzheimer, wedi'u crybwyll fel rhai o'rdarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn yr oes ddiweddar.

Ymunodd â phanel o dan gadeiryddiaeth Shelagh Fogarty o BBC 5 Live ac yn cynnwys noddwr Alzheimer's Research UK, sef Syr Terry Pratchet i lansio'r adroddiad newydd.

Mae tua miliwn o bobl yn byw gyda dementia wrth i'r boblogaeth heneiddio, ac mae hynny'n costio dros £23 biliwn i'r economi. Gan fod y triniaethau prin sydd ar gael ond yn lliniaru rhai symptomau, mae pwysau parhaus ar ymchwil i gyflwyno cyffuriau newydd, dulliau o atal y clefyd a ffyrdd gwell o roi diagnosis.

Mae adroddiad Defeating Dementia yn amlinellu 14 argymhelliad i Lywodraeth y DU a phob cyllidwr ymchwil er mwyn helpu i wella gallu a chreu amgylchedd ymchwil mwy priodol ar gyfer yr her y mae dementia yn ei chyflwyno.

Dywedodd Rebecca Wood, Prif Weithredwr Alzheimer's Research UK: "Mae ond yn iawn ein bod yn mynd i'r afael o ddifrif â'r her o ofalu y mae dementia yn ei chynnig heddiw ac yfory, ond ni allwn laesu dwylo. Yr unig ateb i ddementia yw'r ymchwil a fydd yn arwain at driniaethau newydd a dulliau o atal y clefyd.

"Mae'r llywodraeth a chyllidwyr eraill wedi cymryd rhai camau cadarnhaol tuag at gynyddu ymdrechion ymchwil yn y DU, ond ni allwn ddibynnu ar ateb tymor byr. Drwy ein hargymhellion, rydym yn herio pob cyllidwr i fabwysiadu ymagwedd tymor hir a hanfodol at ymchwil ddementia.

"Os na allwn gynyddu nifer y gwyddonwyr sy'n gweithio ar ddementia, yna byddwn yn methu o ran yr 820,000 o bobl sy'n byw gyda dementia heddiw, ac ni fyddwn yn gallu gwneud dim i roi terfyn ar y cynnydd anochel mewn achosion."

Rhannu’r stori hon