Ewch i’r prif gynnwys

Angen gwella gwasanaethau iechyd plant yn y DU

18 Ionawr 2017

Mother and child seeing GP

Mae astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd wedi canfod sawl maes gofal sylfaenol lle mae angen gwelliannau er mwyn lleihau niwed i blant sâl.

Fel rhan o'r astudiaeth, a gynhaliwyd gan ddefnyddio data o System Adrodd a Dysgu Genedlaethol Cymru a Lloegr (NRLS), dadansoddwyd mwy na 2,000 o adroddiadau digwyddiad dros gyfnod o ddeng mlynedd (2003-2013) a oedd yn ymwneud â phlant sâl yng ngofal sylfaenol yng Nghymru a Lloegr, a chanfuwyd mai cyfathrebu gwael oedd yn sail i'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau lle cafodd plant eu niweidio.

Dywedodd Dr Philippa Rees, un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Cydnabyddir yn eang bod ansawdd gwasanaethau iechyd plant yn y DU yn llusgo'n bell ar ôl rhai mewn gwledydd cyfagos yn Ewrop. Ym maes gofal sylfaenol – y cam cyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o blant sâl – mae cynnydd wedi bod yn arbennig o araf..."

"Mae'r astudiaeth yn amlygu gwendidau mewn amryw systemau gofal sylfaenol. Mae yna wendidau y mae gweithwyr y GIG wedi arferu â nhw, er mwyn osgoi niwed i blant. Mae'n rhaid i sefydliadau gofal iechyd mynd i'r afael â'r problemau hyn ar systemau, er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol i ddarparu gofal diogel."

Dr Philippa Rees Gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd

"Gyda lwc, yn y pen draw bydd yr astudiaeth hon yn helpu i ffocysu ac ysbrydoli ymdrechion hir-ddisgwyliedig yn y maes hwn, a hynny ar lefel leol a chenedlaethol, ac yn ein helpu i weithio yn ôl un o egwyddorion sylfaenol moeseg feddygol – yn gyntaf, peidiwch â gwneud niwed."

Dyma ganfyddiadau'r ymchwilwyr:

  • disgrifiodd tua 30% o'r holl adroddiadau ryw lefel o niwed i blentyn
  • roedd adroddiadau rheolaidd o gamgymeriadau meddyginiaeth mewn fferyllfeydd yn y gymuned
  • roedd damweiniau yn ymwneud â diagnosis, asesu ac atgyfeirio plant sâl yn arbennig o niweidiol, gyda deg o farwolaethau, 15 achos o niwed difrifol, a 69 achos o niwed cymedrol
  • roedd cyfathrebu gwael yn sail i lawer o'r digwyddiadau a wnaeth arwain at niwed i blant

Roedd y ffaith i rai problemau penodol godi mor aml yn pwyntio'n glir at feysydd y mae angen eu gwella. Roedd yr argymhellion ar gyfer gwelliannau'n cynnwys:

  • systemau mwy dibynadwy ar gyfer dosbarthu meddyginiaethau mewn fferyllfeydd cymunedol
  • gwerthusiad cadarn o effeithiolrwydd a diogelwch GIG 111 ymhlith y boblogaeth bediatrig
  • hyfforddiant pediatrig gorfodol ar gyfer yr holl hyfforddeion ymarfer cyffredinol
  • datblygu'r gallu i wella ymhlith staff y GIG ym mhob proffesiwn

Dywedodd Dr Colin Powell, Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phediatregydd yn Ysbyty Plant Cymru Noah's Ark: "Ar hyn o bryd mae problemau sylweddol o ran sicrhau bod gan yr holl feddygon teulu dan hyfforddiant gyfle i gwblhau cyfnod o chwe mis dan hyfforddiant mewn uned cleifion mewnol pediatrig acíwt..."

"Byddai hyfforddiant gorfodol mewn pediatrig i feddygon sy'n hyfforddi i fod yn feddygon teulu yn gam pwysig tuag at sicrhau bod pob plentyn sâl sy'n ceisio sylw meddygol yn cael ei adnabod yn gynnar, ei reoli yn y lleoliad gofal cywir, ac yn cael y driniaeth gywir ar yr adeg gywir, a hynny gan rywun sy'n meddu ar y sgiliau priodol ar gyfer rheoli plant sâl."

Dr Colin Powell Clinical Senior Lecturer

Ychwanegodd Dr Andrew Carson-Stevens, Arweinydd Ymchwil Diogelwch Cleifion yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn mynd i'r gwaith bob dydd i wneud eu gorau glas dros gleifion. Mae'r astudiaeth hon wedi helpu i nodi'r meysydd lle gallwn ganolbwyntio ein hymdrechion i wella'r system, er mwyn sicrhau gofal o safon, a diogelwch plant yng ngofal sylfaenol..."

"Mae'n rhaid cefnogi'r broses o gyflwyno technolegau newydd i'n harferion drwy ystyried yr hyn a ddysgwyd dros ddau ddegawd o arwain gwelliannau mewn ansawdd a diogelwch gofal iechyd."

Yr Athro Andrew Carson-Stevens Clinical Research Fellow

"Bydd y dulliau hynny i ddatblygu systemau gofal iechyd mwy diogel, sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn helpu i gyflymu ymdrechion i ddarparu gofal rhagorol i bob plentyn, bob tro."

Mae canlyniadau'r astudiaeth 'Patient Safety Incidents Involving Sick Children in Primary Care in England and Wales: A Mixed Methods Analysis’ wedi eu cyhoeddi yn Plos Medicine (Rees P et al, 2017).

Rhannu’r stori hon

Ymunwch â’n cymuned ôl-raddedig i weithio ar ymchwil sy’n cynorthwyo gwell gofal iechyd.