Ewch i’r prif gynnwys

Ymdeimlad o ‘Seisnigrwydd’ yn gryfach na ‘Phrydeindod’ yn Lloegr

23 Ionawr 2012

Professor Richard Wyn Jones
Professor Richard Wyn Jones

Yn ôl adroddiad a gyd-ysgrifennwyd gan y Brifysgol, mae'r ymdeimlad o 'Seisnigrwydd' ymysg pleidleiswyr sy'n byw yn Lloegr wedi dod yn fwyfwy amlwg ac maent yn rhoi llawer mwy o bwyslais ar eu hunaniaeth Seisnig yn hytrach na'u hunaniaeth Brydeinig.

Mae'r adroddiad, a luniwyd ar y cyd gan gwmni ymchwil IPPR a Phrifysgolion Caerdydd a Chaeredin, yn rhybuddio bod yn rhaid i bleidiau gwleidyddol fynd i'r afael â'r sefyllfa yn Lloegr yn benodol, beth bynnag sy'n digwydd yn yr Alban, neu wynebu ymateb chwyrn y Saeson.

Mae'r adroddiad yn seiliedig ar ganlyniadau arolwg Dyfodol Lloegr. Dyma'r unig arolwg sydd wedi'i gynnal am y maes yma yn Lloegr ers sefydlu llywodraeth glymblaid yn San Steffan ac ethol yr SNP yn llywodraeth fwyafrifol yn Holyrood.

Yr hyn sy'n unigryw amdano yw'r ffordd y mae'n edrych ar sut mae agweddau yn Lloegr wedi newid dros amser a sut maent yn cymharu â gwledydd eraill Ewrop.

Dyma beth mae'n ei ddangos:

  • Mae nifer y pleidleiswyr yn Lloegr sy'n credu bod Prydain yn cael ei llywodraethu'n waeth ers sefydlu Senedd yr Alban (35 y cant) wedi dyblu ers 2007.
  • Mae'r Saeson yn credu nad ydynt yn cael rhan deg o gacen datganoli, gyda 45 y cant o bleidleiswyr yn Lloegr yn dweud 'bod yr Alban yn cael mwy o wariant cyhoeddus nag y dylai ei chael' - mae'r nifer sy'n cytuno â hyn wedi bron ddyblu ers 2000. Yn y cyfamser, mae 40 y cant o bleidleiswyr yn Lloegr yn dweud bod Lloegr yn cael llai nag y dylai ei gael o arian cyhoeddus.
  • Mae dros hanner (52 y cant) yn dweud bod economi'r Alban yn elwa'n fwy nag economi Lloegr o fod yn y DU, tra bod llai nag un o bob pedwar yn credu bod economïau Lloegr a'r Alban yn elwa yn yr un modd.
  • Er bod y gefnogaeth o blaid annibyniaeth i'r Alban yn parhau'n isel - dim ond 22 y cant sy'n credu y dylai'r Alban ddilyn ei chwys ei hun - mae'r Saeson yn cytuno'n gryf â'r farn bod angen diwygio'r trefniant datganoledig presennol. Roedd cefnogaeth frwd hefyd yn Lloegr (80 y cant) o blaid rhoi annibyniaeth ariannol lawn ('devo-max') i'r Alban, gyda 44 y cant yn cytuno'n gryf. Dywedodd 79 y cant y dylai ASau'r Alban gael eu rhwystro rhag pleidleisio ar ddeddfau Lloegr, gyda mwyafrif llwyr yn cytuno'n gryf â'r gosodiad hwn.
  • Er eu bod yn fodlon ar y dechrau i barhau i gael eu llywodraethu gan sefydliadau'r DU yn San Steffan heb newid unrhyw beth, mae'r adroddiad yn dangos mai dim ond chwarter y pleidleiswyr yn Lloegr sydd o blaid cadw'r drefn bresennol. Mae 59 y cant yn dweud nad ydynt yn credu bydd Llywodraeth y DU yn gweithio er lles buddiannau Lloegr yn y tymor hir.
  • Yn ôl pob golwg, mae pleidleiswyr yn Lloegr o blaid cyflwyno trefniadau llywodraethu penodol ar gyfer Lloegr ond mae'r gefnogaeth rhwng sicrhau mai ASau Lloegr yn unig sy'n pleidleisio ar ddeddfau Lloegr, neu sefydlu Senedd Lloegr, wedi'i rhannu (roedd cyfanswm o 54 y cant o blaid y ddau ddewis hyn).

Mae'r adroddiad yn dangos bod dwywaith cymaint o'r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Saeson yn gyntaf ac wedyn yn Brydeinwyr (40 y cant) o gymharu â'r rhai sy'n ystyried eu hunain yn Brydeinwyr yn gyntaf ac wedyn yn Saeson (16 y cant). Nid yw'r Saeson yn ymwrthod â Phrydeindod yn gyfan gwbl ac maent yn dal gafael ar eu hunaniaeth ddeublyg. Dros y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, maent yn dewis fwyfwy i bwysleisio eu hunaniaeth Seisnig o flaen eu hunaniaeth Brydeinig.

Mae'r patrwm hwn yn gyson ar draws rhanbarthau amrywiol Lloegr (gan gynnwys Llundain) ac ar draws pob grŵp cymdeithasol a demograffeg - pleidleiswyr o leiafrifoedd ethnig yw'r unig eithriad. Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn amlygu tystiolaeth gychwynnol o dwf hunaniaeth Seisnig ymhlith cymunedau lleiafrifol ethnig.

Mae anfodlonrwydd gyda datganoli a'r dulliau llywodraethu yn Lloegr ar hyn o bryd yn amlycach ymhlith y rhai sydd ag ymdeimlad cryf o hunaniaeth Seisnig. Dyma grŵp sy'n cynrychioli cyfran gynyddol o'r boblogaeth.

Mae'r pôl opiniwn a gyflwynwyd yn yr adroddiad yn dangos cyn lleied o ffydd sydd gan bleidleiswyr yn Lloegr yn y pleidiau gwleidyddol i warchod buddiannau Lloegr. Roedd canran uwch yn teimlo nad oedd unrhyw blaid yn gwarchod buddiannau Lloegr o gymharu â'r canrannau oedd yn cefnogi unrhyw un o'r prif bleidiau gwleidyddol.

  • 'Nid oes unrhyw blaid yn gwarchod buddiannau Lloegr' = 23%
  • Llafur = 21%
  • Ceidwadwyr = 20%
  • Ddim yn gwybod = 15%
  • Plaid Annibyniaeth y DU = 9%
  • Democratiaid Rhyddfrydol = 4%
  • Plaid Genedlaethol Prydain = 4%
  • Democratiaid Lloegr = 2%
  • Y Blaid Werdd = 2%

Meddai'r Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru a chydawdur yr adroddiad:"Er gwaethaf pwyslais penodol pob llywodraeth ar Brydeindod, mae'n amlwg mai Seisnigrwydd yw'r ymdeimlad sydd fwyaf cyffredin ar lawr gwlad.

"Ar ben hynny, ceir tystiolaeth gref fod hunaniaeth Seisnig yn ennill ei blwyf ar lefel wleidyddol. Po fwyaf yw'r ymdeimlad o Seisnigrwydd ymhlith etholwyr, maent yn fwy tebygol o fod yn anfodlon gyda'r modd y llywodraethir y DU ers datganoli. Maent yn hefyd yn fwy tebygol o gefnogi'r dimensiwn Seisnig yn benodol yng ngwleidyddiaeth eu gwlad.

"Hyd yn oed os nad yw'r dimensiwn Seisnig yn gwbl glir eto ym meddyliau'r etholwyr, gellir dadlau bod hynny, cymaint ag unrhyw factor arall, yn adlewyrchiad o fethiant gwleidyddion i arwain trafodaeth gyhoeddus am y mater cynyddol bwysig hwn."

Meddai Nick Pearce, Cyfarwyddwr IPPR:"Mae hunaniaeth Seisnig ar dwf ac mae'n cael ei mynegi'n gynyddol mewn ffyrdd sy'n lladd ar y trefniant datganoledig. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu na all Seisnigrwydd fod yn llais gwleidyddol a diwylliannol agored a chynhwysol mewn Teyrnas Unedig ar ei newydd wedd.

"Mae angen i'n prif bleidiau gwleidyddol gofleidio Seisnigrwydd, ei gymryd o ddifrif, a chanfod ffyrdd newydd o roi mynegiant gwleidyddol iddo. Nid rhywbeth i'w ofni mohono nac ychwaith yn rhywbeth i'w adael ar gyrion gwleidyddiaeth asgell dde.

"Mae rhai yn ofni y gall trafod Lloegr a Seisnigrwydd wanhau'r undeb ond mae'r gwrthwyneb yn wir. Po hiraf y caiff y drafodaeth hon ei hanwybyddu, neu'n waeth na hynny, ei gwadu, y mwyaf tebygol y cawn ymateb chwyrn yn Lloegr yn erbyn y DU."

Cewch lawrlwytho adroddiad newydd IPPR –The dog that finally barked: England as an emerging political community yn: http://bit.ly/IPPR8542.

Mae'r adroddiad yn rhan o gydweithrediad ymchwil o bwys rhwng Canolfan Llywodraethiant Cymru'r Brifysgol, Sefydliad Llywodraethu Prifysgol Caeredin ac IPPR.

Rhannu’r stori hon