Ewch i’r prif gynnwys

Lansiad llwyddiannus i sioe bywyd gwyllt

23 Ionawr 2012

Rhys Jones and Connie Fisher

Roedd seren y West End, Connie Fisher, ymhlith dros 130 o westeion yn sgriniad y Brifysgol o gyfres newydd o Rhys to the Rescue.

Mae'r rhaglen hon gan BBC Wales yn dilyn Dr Rhys Jones yr arbenigwr bywyd gwyllt a Chymrawd Ymweld Nodedig yr Ysgol Biowyddorau. Gofynnir i'r arbenigwr ar ymlusgiaid, a wnaeth ei radd a'i PhD yng Nghaerdydd, helpu yn aml gyda rhywogaethau sydd mewn perygl ledled De Cymru.

Dangoswyd rhaglen gyntaf yr ail gyfres yn Narlithfa Julian Hodge. Yn ogystal â Connie Fisher, enillydd y sioe How do you solve a problem like Maria? ar y BBC, roedd y gynulleidfa'n cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru, y Fyddin, y BBC a sefydliadau bywyd gwyllt lleol.

Gwyliodd y gynulleidfa Dr Jones yn ateb galwad brys yn ymwneud â neidr yr ŷd 36 modfedd o hyd mewn ystafell ymolchi yn Abertridwr. Gwelwyd ef wedyn yn archwilio honiadau o gathod mawr yn ne Cymru wledig.

Ar ôl gweld y bennod, atebodd Dr Jones a'r Cwnstabl Mark Goulding, Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt ac Amgylcheddol Heddlu De Cymru, gwestiynau'r gynulleidfa, gan ysgogi trafodaeth llawn gwybodaeth diddorol ar faterion bywyd gwyllt.

Dywedodd Dr Jones: "Roedd y digwyddiad yn cynnwys cydweithwyr yn yr Ysgol Biowyddorau, aelodau o'r Amgueddfa, yr Heddlu a gwahanol asiantaethau, sy'n pwysleisio pa mor annatod maent wedi bod o ran creu'r gyfres hon. Roeddwn hefyd am fynegi fy niolch i bawb yn yr Ysgol sydd wedi fy nghefnogi, yn enwedig fy arolygwyr Dr Jo Cable a'r Athro Mike Bruford."

Wildlife show

Rhannu’r stori hon