Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro Jeremy Alden (1943 - 2012)

23 Ionawr 2012

Professor Jeremy Alden (1943 – 2012)

Mae teyrngedau wedi cael eu talu i'r Athro Jeremy Alden, cyn Ddirprwy Is-ganghellor Dysgu ac Addysgu, a Phennaeth yr Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, sydd wedi marw yn 68 mlwydd oed.

Chwaraeodd yr Athro Alden, awdurdod ar ddatblygu rhanbarthol a chynllunio gofodol, rôl arweiniol o ran sefydlu Caerdydd fel un o ganolfannau blaenllaw'r byd ar gyfer astudio Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol. Roedd yn Gymrawd yn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, ac yn ddyn pwysig mewn addysg cynllunio broffesiynol ledled y DU.

Mae'r Is-ganghellor, Dr David Grant, a Phennaeth presennol yr Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, yr Athro Chris Webster, ill dau wedi talu teyrnged i'w gyfraniad.

Daeth Jeremy Alden i Gaerdydd ym 1969, ar ôl gyrfa gynnar a oedd yn cynnwys gwaith polisi ar gyfer yr Adran Materion Economaidd. I ddechrau, roedd yn Ddarlithydd mewn Economeg Trefol a Datblygu Rhanbarthol, roedd yn Uwch Gymrawd Ymchwil, yna'n Uwch Ddarlithydd, cyn dod yn Bennaeth yr Ysgol ym 1990.

Fel Pennaeth, atgyfnerthodd yr Athro Alden safle'r Ysgol fel arweinydd y byd yn ei faes. Rhestrwyd yr Ysgol ar y brig yn Ymarfer Asesu Ymchwil y DU ym 1996 - safle y llwyddodd i'w gadw yn 2001 a 2008.

Ar ôl i'w dymor fel Pennaeth yr Ysgol ddod i ben ym 1999, penodwyd yr Athro Alden yn Athro Rhyngwladol Astudiaethau Cynllunio a Dirprwy Is-ganghellor y Brifysgol ar gyfer Dysgu ac Addysgu yn 2001. Roedd ei rôl yn y swydd ddiwethaf yn cynnwys cynrychioli Caerdydd mewn astudiaeth ar y cyd rhwng y DU a Tsieina ar reoli a pherfformiad prifysgolion arweiniol y ddwy wlad.

Cydnabuwyd arbenigedd yr Athro Alden gan nifer o gyrff rhyngwladol. Cafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i astudio datblygu rhanbarthol a chynllunio gofodol yng Nghymru, a gofynnodd y Comisiwn Ewropeaidd iddo ymchwilio i oblygiadau cynllunio ar gyfer UE fwy o faint. Gofynnodd Llywodraeth Tsieina iddo hybu cynllunio gofodol yn Tsieina a chyfnewid arfer gorau gydag Ewrop. Ef hefyd oedd y golygydd a sefydlodd y cyfnodolyn International Planning Studies.

Gweithredodd yr Athro Alden ar ran Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol wrth achredu rhan fwyaf o Ysgolion Cynllunio Prifysgolion y DU. Yn 2004, cadeiriodd Banel Cynllunio Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU, gan feincnodi disgwyliadau pob myfyriwr cynllunio graddedig yn y DU. Ymddeolodd yn 2007.

Dywedodd yr Is-ganghellor, Dr David Grant: "Mae Prifysgol Caerdydd yn ddyledus iawn i Jeremy Alden. Roedd yn ymchwilydd ac addysgwr enwog, a helpodd ei arweinyddiaeth i atgyfnerthu safle'r Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol ymhlith y gorau yn y byd. Mae'r ffaith bod yr Ysgol wedi ennill y safle cyntaf yn gyson mewn rhestrau ansawdd ymchwil yn y DU yn dystiolaeth i'w etifeddiaeth. Hefyd, roeddwn yn gwerthfawrogi'n fawr ei gymorth yn ystod ei gyfnod fel Dirprwy Is-ganghellor, pan roedd yn hyrwyddo addysg a dysgu yn y Brifysgol, ac yn gwneud llawer i gryfhau cysylltiadau rhyngwladol y Brifysgol, yn enwedig gyda Tsieina. Roedd yr Athro Alden yn cael ei werthfawrogi'n fawr fel cydweithiwr a ffrind i nifer, ac mae pawb oedd yn adnabod Jeremy yng Nghaerdydd yn drist iawn i glywed am ei farwolaeth. Rydym yn cydymdeimlo'n fawr â'i wraig Brenda a'u teulu."

Yn ei deyrnged i'r Athro Alden, dywedodd yr Athro Chris Webster: "Dw i erioed wedi cyfarfod ag unrhyw un nad oedd yn siarad amdano â hoffter. Er yr oedd ar frig ei faes, roedd bob amser wedi llwyddo i aros yn ostyngedig, gan wneud i gydweithwyr a myfyrwyr deimlo'n ddyrchafedig gan ei natur wylaidd a llawn clod."

Gellir darllen ysgrif goffa'r Athro Webster ar gyfer yr Athro Alden yma.

Rhannu’r stori hon