Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaethau ar gael am haf ym Mhatagonia

17 Ionawr 2017

Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, trwy haelioni Banc Santander, yn cynnig dwy ysgoloriaeth gwerth £3,000 yr un i alluogi myfyrwyr israddedig i deithio i Batagonia am fis o brofiad gwaith yn ystod haf 2017.

Dyma’r pedwerydd flwyddyn i’r Ysgol gynnig y cyfle arbennig hwn.

Mae’r Ysgoloriaethau yn agored i bob myfyriwr israddedig a fydd yn parhau yn fyfyriwr israddedig yn yr Ysgol yn ystod haf 2017. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10 Chwefror 2017.

Bydd yr ysgolorion llwyddiannus yn cefnogi gwaith ‘Cynllun yr Iaith Gymraeg yn Chubut, Patagonia’.  Cynllun yw hwn sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, y Cyngor Prydeinig, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Cymru-Ariannin a Menter Iaith Patagonia. Arweinydd y Cynllun yw Mr Rhisiart Arwel, sydd yn aelod o staff y Ganolfan Cymraeg i Oedolion sy’n rhan o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae’r profiad gwaith yn amrywiol ac yn cynnwys gweithgareddau megis cynorthwyo mewn ysgolion meithrin a chynradd ac mewn dosbarthiadau dysgu Cymraeg i oedolion.

I geisio am ysgoloriaeth, llenwch ffurflen gais a dychwelwch drwy e-bost i Swyddfa’r Ysgol erbyn 10 Chwefror 2017.

Cynhelir sesiwn wybodaeth gyda Dr Jon Morris ac un o ymgeiswyr llwyddiannus y llynedd  yn Ystafell 1.69 ar ddydd Llun 30 Ionawr am 13.00

Enillwyd ysgoloriaethau 2016 gan ddwy fyfyrwraig, Elin Arfon a Manon Thomas. Teithiodd y ddwy i’r Wladfa dros yr Haf a chewch ddarllen am eu profiadau ar wefan yr Ysgol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.