Ewch i’r prif gynnwys

Dealltwriaeth newydd o ddementia sy’n gysylltiedig ag AIDS

13 Ionawr 2017

Graphic of HIV spreading

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Califfornia (UCLA) a Phrifysgol Caerdydd wedi torri tir newydd yn y ddealltwriaeth o ddementia sy'n gysylltiedig ag AIDS, drwy ddarganfod rôl protein niwronau y cafwyd ei fod hefyd yn effeithio ar alluoedd dysgu mewn cyfranwyr iach.

Dywedodd yr Athro Kevin Fox, a arweiniodd y gwaith yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Mae ein gwaith yn cynrychioli newid mawr yn y ddealltwriaeth o sut mae dementia cysylltiedig ag AIDS yn gweithio..."

"Yn sgîl yr wybodaeth newydd bod y protein CCR5 mewn niwronau yn effeithio ar ddysgu ac yn chwarae rhan bwysig mewn dementia cysylltiedig ag AIDS, gallwn ni’n awr edrych ar ffyrdd o’i ffrwyno er mwyn trin yr afiechyd ac ymchwilio i weld a allai ei leihau fod o fudd i fathau eraill o ddementia hefyd, a hyd yn oed gynorthwyo adferiad pobl sydd wedi dioddef strôc.”

Yr Athro Kevin Fox Professor

Yn wreiddiol, sgrinio ymddygiad llygod ar hap yn UCLA oedd testun y gwaith ymchwil newydd, lle datgelwyd bod gan rai llygod mwtant gof gwell nag eraill. Datgelodd profion pellach nad oedd gan y llygod â chof gwell broteinau CCR5 yn eu niwronau. Mewn cyferbyniad, roedd anifeiliaid oedd â lefel ormodol o’r protein CCR5 yn arafach i ddysgu, gan ddatgelu effaith CCR5 ar niwronau a’u gallu i godio atgofion.

Roedd y tîm eisoes yn gwybod mai’r protein CCR5 oedd y derbynnydd y mae AIDS yn ei ddefnyddio i heintio celloedd imiwnedd, a bod cleifion AIDS yn dioddef o ddementia. Ar ôl gweld y cysylltiad rhwng CCR5 a dysgu wrth sgrinio ymddygiad llygod, rhesymwyd y gallai actifiant y protein mewn celloedd niwronau yn sgîl haint HIV gyfyngu ar swyddogaethau’r niwronau a dysgu. Pan gyflwynwyd y rhan o HIV sy’n ymlynu wrth CCR5 i'r ymennydd, cafwyd bod cof llygod arferol a’u gallu i ddysgu yn lleihau. Mae hyn yn awgrymu bod HIV yn debygol o gynhyrchu dementia cysylltiedig ag AIDS trwy gynyddu lefelau naturiol actifiant CCR5 a chyfyngu ar hyblygrwydd arferol y celloedd gan eu hachosi i fethu codio atgofion yn briodol.

"Rwy’n dal i ryfeddu bod llygod sydd heb CCR5 yn gallu bod â chof llawer gwell na llygod arferol."

Yr Athro Alcino Silva Ysgol Meddygaeth David Geffen UCLA a Sefydliad Niwrowyddoniaeth ac Ymddygiad Dynol Semel

"Mae'n gyffrous iawn y gallai’r cyffuriau sy’n rhwystro CCR5, sydd eisoes ar y farchnad, gael eu defnyddio i drin pob math o diffygion y cof!" meddai Alcino Silva, Athro Niwrofioleg a Seiciatreg yn Ysgol Meddygaeth David Geffen UCLA a Sefydliad Niwrowyddoniaeth ac Ymddygiad Dynol Semel.

"Gyda’r cyffuriau CCR5 sydd ar gael ar y farchnad gallai'r gwaith hwn gael ei gymhwyso’n eang ar unwaith ar draws amrywiaeth o glefydau niwrolegol."

Dr Stuart Greenhill Honorary Research Fellow

Mae tua 30% o’r oedolion HIV-positif a 50% o'r babanod HIV-positif yn dioddef diffygion gwybyddol -problem glinigol sylweddol sy'n gysylltiedig â haint HIV. Credid gynt fod dementia cysylltiedig ag AIDS yn cael ei achosi gan effeithiau HIV ar gelloedd imiwnedd, sef effeithio ar yr ymennydd yn anuniongyrchol drwy ymosod ar y system imiwnedd a chreu llid.

"Mae ein canfyddiadau yn arwydd o newid mawr yn sut byddwn ni’n ystyried trin problemau gwybyddol sy’n gysylltiedig ag AIDS."

Miou Zhou Gwyddonydd o UCLA

Rhannu’r stori hon

Mae manylion llawn am ein rhaglenni PhD a MRes, yn cynnwys sut i ymgeisio, ar gael yn y darganfyddwr cwrs.