Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddu Ffisiotherapydd â Chymrodoriaeth

16 Ionawr 2012

Fellowship honour for Physiotherapist
Dr Nicki Phillips, School of Healthcare Studies

Mae'r Cyfarwyddwr Astudiaethau Gofal Iechyd Ôl-raddedig wedi derbyn Cymrodoriaeth gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi i gydnabod ei chyfraniad eithriadol at y proffesiwn.

Cyflwynwyd y wobr i Dr Nicola Phillips (sy'n cael ei hadnabod fel Nicki), Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd, gan y Gymdeithas mewn seremoni ddiweddar a gynhaliwyd yn Llundain, sy'n golygu ei bod yn un o dri yn unig o ffisiotherapyddion gweithredol sydd â Chymrodoriaeth yng Nghymru.

Daeth Nicki i Gaerdydd ym 1998 ar ôl gweithio am 15 mlynedd fel clinigwr ffisiotherapi, ac ers hynny mae wedi cyfuno gyrfa academaidd gyda rôl glinigol weithredol iawn mewn meddygaeth gyhyrysgerbydol a chwaraeon, gyda chwaraeon sylfaenol, ac athletwyr elit, amatur a phroffesiynol.

Trwy rannu ei hamser academaidd rhwng arwain yr adran addysgu ôl-raddedig, addysgu MSc Ffisiotherapi Chwaraeon ac ymchwil parhaus, mae Nicki hefyd yn gweithio ar fenter gyda Chyngor Chwaraeon Cymru i ddatblygu cymorth ffisiotherapi ar gyfer athletwyr Perfformiad Uchel yng Nghymru.

Yn ogystal â gweithio mewn saith o Gemau'r Gymanwlad ar gyfer tîm Cymru, a thri o'r Gemau Olympaidd - yn 2008 fel y Prif Ffisiotherapydd ar gyfer Tîm Prydain Fawr - mae Nicki yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithio tuag at adeiladu dilyniant i Gymru o Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Cymrodoriaeth yw'r wobr uchaf a gyflwynir gan y Gymdeithas, ac fe'i rhoddwyd i gydnabod cyfraniad sylweddol Nicki at ffisiotherapi chwaraeon trwy ddatblygu addysg, ymarfer clinigol, rheolaeth broffesiynol a datblygu safonau rhyngwladol o ymarfer uwch.

Dywedodd Dr Phillips: "Roeddwn yn falch iawn derbyn y Gymrodoriaeth gan mai hon yw'r wobr uchaf gall fy nghorff proffesiynol, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, ei dyfarnu. Roedd gwybod fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr gan fy nghyfoedion mewn ffisiotherapi chwaraeon hefyd yn fy ngwneud i deimlo'n ostyngedig, ac rwy'n ystyried fy hun yn ffodus iawn fy mod i, nid yn unig yn mwynhau fy ngwaith, ond hefyd wedi cael fy nghydnabod am ei wneud."

Dywedodd yr Athro Patricia Price, Pennaeth yr Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd: "Hoffwn longyfarch Dr Phillips ar y gydnabyddiaeth hon y mae'n ei haeddu'n fawr, gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi. Mae Nicki'n ysbrydoli ein myfyrwyr gyda'i haddysgu; mae ganddi rôl glinigol mewn chwaraeon ar lefel uchel ac mae'n arwain arloesi ac ymgysylltu yn yr Ysgol. Enghraifft ddiweddar ardderchog yw ei gwaith gyda Llywodraeth Cymru tuag at adeiladu dilyniant i Gymru o Gemau Olympaidd Llundain 2012."

Dywedodd Dr Helena Johnson, Cadeirydd Cyngor Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi: "Mae Nicola wedi helpu i ddatblygu llwybr datblygu proffesiynol parhaus sy'n arwain at arbenigedd ffisiotherapi chwaraeon a gydnabyddir gan y Ffederasiwn Rhyngwladol Ffisiotherapyddion Chwaraeon (IFSP). Mae hefyd wedi helpu i sefydlu safonau Ewropeaidd craidd ar gyfer achredu ffisiotherapyddion chwaraeon. Mae Nicola wedi bod yn llysgennad rhagorol dros y proffesiwn, gartref a thramor."

Rhannu’r stori hon