Ewch i’r prif gynnwys

Adeilad Hadyn Ellis yn datblygu

12 Ionawr 2012

Hadyn Ellis building
The new Hadyn Ellis building is just one of the major developments.

Mae gwaith adeiladu Adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol yn dod yn ei flaen yn dda ar safle Parc y Maendy.

Dechreuodd BAM Construction eu gwaith fis Medi diwethaf i osod sylfeini'r adeilad fydd yn gartref i gyfleusterau datblygedig rhai o dimau ymchwil blaenllaw'r Brifysgol.

Dechreuodd BAM eu gwaith ar yr is-sylfeini ym mis Hydref. Erbyn hyn, maent wedi gosod dau graen cyfrwy â braich fawr sy'n galluogi'r contractwr i weithio yn ystod misoedd y gaeaf i osod y ffrâm concrid sydd wedi'i atgyfnerthu. Dylai gwaith gorchuddio'r adeilad ddechrau ym mis Mawrth.

Meddai Rheolwr Prosiect BAM Justin Price: 'Bydd pobl sy'n cerdded heibio'r safle yn sylwi pa mor gyflym y mae'r gwaith yn mynd rhagddo nawr bod y ffrâm yn cael ei osod. Dechreuodd y gwaith adeiladu gyda'r 'gwaith anweladwy', sef gwaith ar y tir a'r sylfaen sy'n hanfodol ar gyfer y prosiect ond nid ydyn nhw i'w gweld dros ein muriau gwyrdd ac oren. Bydd hyn yn newid yn gyflym nawr wrth i BAM ddefnyddio dau graen tŵr. Mae un ohonyn nhw'n 35m o uchder a'r llall yn 45m a bydd y rhain yn ein galluogi i osod y ffrâm mewn oddeutu 14 wythnos.'

Meddai'r Athro Tim Wess, Dirprwy Is-ganghellor Ystadau'r Brifysgol: "Mae'r Brifysgol yn falch iawn o weld y cynnydd y mae BAM yn ei wneud yn adeiladu adeilad newydd Hadyn Ellis ar gampws Parc y Maendy. Dyma brosiect tirnod ar gyfer y campws ymchwil rydyn ni'n ei gynllunio ym Mharc y Maendy. Bydd cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil y Brifysgol yn yr adeilad newydd. Bydd hyn o les i'r gymuned ehangach, yn enwedig o ran brwydro yn erbyn canser ac afiechydon yr ymennydd."

Yn ôl BAM, sydd â swyddfeydd ar Heol Casnewydd, tua 50 fydd uchafswm nifer y gweithwyr ar y safle wrth godi'r ffrâm, a bydd pob un ohonyn nhw o dde Cymru.

Rhannu’r stori hon