Ewch i’r prif gynnwys

Cyfathrebu plant bach

9 Ionawr 2012

Toddler communication

Mae ymchwil newydd gan yr Ysgol Seicoleg wedi dangos bod plant bach yn gallu deall y gwahaniaeth rhwng gweithredoedd bwriadol a gweithredoedd damweiniol yn ôl tôn y llais yn unig.

O dan arweiniad Dr Merideth Gattis, bu 84 o fabanod rhwng 14 a 18 mis oed yn cymryd rhan yn yr ymchwil, a gymerodd flwyddyn ac a oedd yn cynnwys dwy astudiaeth – y naill yn defnyddio'r iaith Saesneg a'r llall yn defnyddio'r iaith Groeg.

Roedd y plant bach yn gwylio ymchwilydd yn perfformio gweithredoedd gyda theganau a oedd naill ai'n fwriadol neu'n ddamweiniol. Roedd y gweithredoedd hyn yn cynnwys y geiriau "whoops" a "there", yr oedd ganddynt ill dau gyfuchliniau lleisiol amlwg ac a oedd yn gweithredu fel cliwiau ar gyfer bwriad ac ystyr. Ailadroddwyd yr un broses yn yr iaith Groeg. Y tro hwn, roedd y plant bach yn cael cliwiau ynghylch bwriad o dôn y llais yn unig, nid o ystyr y gair – nid oedd gan yr un ohonynt brofiad blaenorol o'r iaith Groeg.

Darganfu Dr Gattis a'i phartner ymchwil, Dr Elena Sakkalou o Goleg Prifysgol Llundain, fod y plant bach yn copïo gweithredoedd bwriadol yn fwy na gweithredoedd damweiniol, a'u bod yr un mor debygol o gopïo gweithredoedd bwriadol yn y ddwy astudiaeth, sy'n awgrymu nad oes angen ciwiau geiriol neu wynebol ar blant bach er mwyn iddynt ddirnad bwriadau.

Mae eu gwaith yn ychwanegu at gorff cynyddol o ymchwil ynghylch rôl tôn, neu fydryddiaeth, yn ystod babandod. Mae'n bwysig oherwydd ei fod yn dangos bod plant bach yn gallu gwahaniaethu rhwng gweithredoedd bwriadol a gweithredoedd damweiniol drwy dôn yn unig, sy'n eu helpu nid yn unig i brosesu gwybodaeth am fwriad person arall, ond hefyd i greu darlun o sut i weithredu yn y byd.

Wrth siarad am eu canfyddiadau, dywedodd Dr Gattis: "Deall cyflyrau meddwl, megis bwriadau, dymuniadau, a chredoau, yw un o'r galluoedd dynol mwyaf pwysig. Mae seicolegwyr yn dal i wybod ychydig iawn am y ffordd y mae plant bach yn dechrau llunio'r ddealltwriaeth hon. Yn y gwaith ymchwil hwn ein nod oedd ymchwilio cyfraniad ciwiau mydryddol, neu dôn y llais, i ddealltwriaeth plant bach o gyflyrau meddwl. Mae tôn y llais yn arwydd defnyddiol iawn i'r hyn y mae rhywun yn ei feddwl. Defnyddiwyd y geiriau 'whoops' a 'there' ar y cyd â goslef leisiol gymharol mewn dwy iaith, a chafwyd yr un canlyniadau'n union - boed mewn Saesneg neu Groeg, nad oedd yr un o'r plant yn ei deall.

"Dangosodd yr astudiaeth hon fod plant yn gallu barnu bwriadau pobl eraill yn seiliedig ar dôn y llais yn unig. Mae nodweddion acwstig llefaru sy'n cyd-fynd â gweithredoedd yn galluogi plant bach i nodi bwriad mewn gweithredoedd sy'n ymddangos yn debyg. Maen nhw'n gallu defnyddio ciwiau mydryddol fel canllaw ar sut i weithredu ar y byd, fel y dangoswyd gan eu tuedd i gopïo gweithredoedd bwriadol yn fwy na gweithredoedd damweiniol."

Cyhoeddir yr ymchwil - Infants infer intentions from prosody – yng nghylchgrawn Cognitive Development.

Rhannu’r stori hon