Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Newyddion Cryfhau cydweithio ym maes ymchwil canser

9 Ionawr 2012

Cancer research collaboration strengthened
Vice-Chancellor Dr David Grant and Professor Jiafu Ji, Director of Peking University Cancer Hospital, sign the Memorandum of Understanding

Mae un o ysbytai mwyaf enwog Tsieina sy'n arbenigo mewn ymchwil a thriniaeth canser, wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda'r Brifysgol i ddatblygu darganfyddiad a thriniaeth canser, yn ystod ymweliad â Chaerdydd.

Bydd y cytundeb yn gweld Ysbyty Canser Prifysgol Peking a'r Brifysgol yn cryfhau eu cydweithrediadau ymchwil i ymchwilio i ganserau'r ysgyfaint, yr oesoffagws, y colon a'r rhefr a chanser gastrig.

Wedi'i lofnodi gan yr Is-ganghellor, Dr David Grant a'r Athro Jiafu Ji, Cyfarwyddwr Ysbyty Canser Prifysgol Peking a Phennaeth Ysgol Oncoleg Prifysgol Peking, bydd y cytundeb hefyd yn cynyddu cyfnewid gwyddonwyr a chlinigwyr iau ac uwch, cynorthwyo i archwilio cyfleoedd mewn ymchwil feddygol drawsfudol, yn ogystal ag ysgoloriaethau ymchwil ar y cyd.

Mae gan y Brifysgol ac Ysgol Canser Prifysgol Peking berthynas hir sefydledig yn dyddio yn ôl i 1985, pan dderbyniodd Coleg Meddygol Prifysgol Cymru bryd hynny, y cymrawd ar ymweliad cyntaf o Peking. Yn y blynyddoedd mwyaf diweddar, mae cyfnewid a chydweithio wedi dod yn hynod weithredol, ac mae wedi arwain at nifer o gymrodorion o Peking yn treulio amser yng Nghaerdydd i ddod o hyd i ddulliau newydd o ddarganfod a thrin canser.

Hefyd yn bresennol o Ysbyty Canser Prifysgol Peking oedd yr Athro Lijian Zhang, Pennaeth Llawfeddygaeth Thorasig; yr Athro Huanping Zhang, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol ac Ymchwil, yr Athro Hong Cai, Cyfarwyddwr Geneteg a Dr LianHai Zhang, Athro Cyswllt a Phennaeth Cynorthwyol Oncoleg Llawfeddygol GI. O Brifysgol Caerdydd, roedd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-ganghellor Ymgysylltu a Rhyngwladol; yr Athro Wen Jiang, yr Ysgol Feddygaeth, a'r Athro Keith Harding, Cyfarwyddwr y Sefydliad ar gyfer Trawsfudo, Arloesedd, Methodoleg ac Ymgysylltu (TIME) ac Athro Gwella Clwyfau, yr Ysgol Feddygaeth.

Mae'r cytundeb hefyd yn cryfhau ymhellach cysylltiadau Prifysgol Caerdydd â Sefydliadau eraill yn Tsieina. Yn fwyaf diweddaf, mae'r Brifysgol wedi llofnodi cytundeb gydag Ysbyty Canser Chongqing i gynnal prosiectau ymchwil ar y cyd ar ganser y fron, ac maent yn gobeithio ymestyn hwn i diwmorau eraill, fel canser yr ysgyfaint a'r brostad, ymhen amser.

Mae partneriaeth ymchwil canser y Brifysgol â Phrifysgol Feddygol Capital yn Tsieina wedi cael ei chydnabod gan Wobr Cydweithio Rhyngwladol y Times Higher Education 2011. Enillodd y Brifysgol am y cydweithrediad sy'n anelu at ddod o hyd i ddulliau newydd o ddarganfod a thrin canser. Mae'r bartneriaeth yn cydgyfrannu arbenigedd a gwybodaeth ymchwil o'r ddau sefydliad gyda'r nod o wneud cynnydd gwirioneddol o ran mynd i'r afael â mater byd-eang – canser y fron.

Rhannu’r stori hon