Ewch i’r prif gynnwys

Campws Arloesedd Caerdydd yn creu hyd at 135 o swyddi

3 Ionawr 2017

Breaking new ground at the Home of Innovation

Mae gwaith adeiladu cychwynnol ar Gampws Arloesedd Caerdydd wedi dechrau, a bydd yn creu hyd at 135 o swyddi adeiladu dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â Kier Group plc er mwyn ymgymryd â chamau cyntaf y gwaith £80m ar y safle tir llwyd. Dyma'r trydydd cam yn natblygiad Campws Arloesedd Caerdydd sydd wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y gwaith adeiladu yn rho hwb i swyddi, hyfforddiant, prentisiaethau a chyfleoedd i ddatblygu ar gyfer grwpiau difreintiedig, NEETs, teuluoedd lle nad oes neb yn gweithio, a'r rhai sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser maith.

Mae'r datblygiad diweddaraf ym Mharc Maendy yn cynnwys dwy ganolfan ragoriaeth.

Bydd un ohonynt yn gartref i SPARK, parc ymchwil gwyddoniaeth cymdeithasol cyntaf y byd a'r Ganolfan Arloesedd - gofod creadigol ar gyfer dechrau busnes, cwmnïau deillio a phartneriaethau.

Bydd y llall yn gartref i ddau sefydliad ymchwil gwyddonol blaenllaw - Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd.

Meddai'r Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: "Rydym yn falch iawn o gydweithio â Kier fel y cwmni dewisol ar Gampws Arloesedd Caerdydd. Bydd y ddau adeilad newydd yn gallu manteisio ar botensial economaidd catalysis a Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yn ogystal â defnyddio gwyddoniaeth cymdeithasol i ddatrys problemau byd-eang brys."

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith: "Rwyf wrth fy modd bod y gwaith ar Gampws Arloesedd Caerdydd, sy'n werth £300m, wedi dechrau erbyn hyn a bod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi'r prosiect cyffrous hwn.

"Mae arloesedd yn rhan ganolog o strategaeth economaidd Cymru ac mae'r prosiect hwn yn cynnig llawer mwy na swyddi adeiladu yn unig. Bydd gan yr ymchwil newydd am dechnolegau newydd a gaiff ei chynnal yn y cyfleusterau modern hyn rôl hollbwysig wrth alluogi'r sector preifat i ffynnu a chreu ystod o swyddi o'r radd flaenaf. Mae'n enghraifft wych arall o sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnes drwy fuddsoddi mewn isadeiledd, sgiliau a gwella amodau gweithredu. "

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ariannu dau adeilad newydd yn rhannol ar y Campws drwy gyfrannu £12m at y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a £6m at Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.

Enillodd Kier y cytundeb £80m drwy ymrwymo i gefnogi swyddi, hyfforddiant, prentisiaethau a chyfleoedd i ddatblygu yn yr ardal leol.

Meddai Anthony Irving, Rheolwr Gyfarwyddwr, Kier Construction Western & Wales: "Mae ein hymrwymiad yn cynnwys swyddi lleol a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau, is-gontractio busnesau bach a chanolig lleol lle bo hynny'n ymarferol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i bobl ifanc drwy brentisiaethau. Caiff myfyrwyr Prifysgol Caerdydd y cyfle i gael lleoliadau gwaith fydd yn rhoi profiad ymarferol iddynt o'r gwahanol swyddi sydd ar gael yn y diwydiant adeiladu."

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ar Gampws Arloesedd Caerdydd fod wedi'i gwblhau yn 2018, a chynhelir yr agoriadau swyddogol yn 2019.

Rhannu’r stori hon