Ewch i’r prif gynnwys

Cyfnodolyn yn amlygu gwaith am gadwyni cyflenwi 'diwastraff'

20 Rhagfyr 2016

Professor Aris Syntetos, Panalpina Chair of Manufacturing and Logistics

Mae partneriaeth rhwng Ysgol Busnes Caerdydd a chwmni logisteg byd-eang Panalpina wedi cael sylw mewn cofnodolyn o bwys ym maes rheoli ymarferwyr.

Mae'r partneriaid yn pwyso a mesur a fydd technolegau newydd a strategaethau gweithgynhyrchu fel argraffu 3D (3DP) a gweithgynhyrchu a ddosberthir yn dynodi cyfnod newydd o gadwyni cyflenwi gwirioneddol ddiwastraff lle caiff cynnyrch eu gwneud yn ôl y galw a'u gweithgynhyrchu yn unol â gofynion cwsmeriaid.

Mae gan argraffu 3D raglenni ym meysydd meddygaeth, diwydiant awyrofod, a ffasiwn ymhlith eraill. Gallai chwyldroi cadwyni cyflenwi, gan symud cynhyrchu o ffatrïoedd mawr yn Asia i ffatrïoedd bach sy'n gallu symud gyda'r galw.

Mae gwaith Caerdydd yn cael ei amlygu yn rhifyn diweddaraf Lean Management Journal. Mae'n trin a thrafod sut mae Panalpina a'r Ysgol Busnes yn ystyried ffyrdd o ddefnyddio argraffu 3D i weddnewid cadwyni cyflenwi i fod yn seiliedig ar fodel sydd fwy ar wasgar a diwastraff yn hytrach na model llinellol.

Meddai'r Athro Aris Syntetos, Athro Cadeiriol Panalpina mewn Gweithgynhyrchu a Logisteg yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Y llynedd, buddsoddodd Panalpina yn ei argraffydd 3D gyntaf i gael gweld dros eu hunain sut y gall technoleg ategu ei Wasanaethau Gweithgynhyrchu Logisteg (LMS). Gellir gosod argraffwyr 3D yn rhan o gyfleusterau Panalpina i ddiwallu anghenion ei gwsmeriaid.

"Drwy roi pwyslais ar gael gafael ar y trefniadau gorau o ran gweithgynhyrchu a logisteg yn hytrach na chwilio am y lleoliad gweithgynhyrchu rhataf, gall Panalpina greu cadwyni cyflenwi mwy diwastraff o fewn amserlenni byrrach a bydd llai o eitemau o dan sylw."