Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl Llen Plant yn dychwelyd i’r brifddinas

20 Rhagfyr 2016

Bydd Gŵyl Llên Plant Caerdydd 2017 yn dychwelyd y gwanwyn nesaf rhwng 25 Mawrth a 2 Ebrill ac ar ôl dathlu Dinas yr Annisgwyl Roald Dahl eleni, mae Caerdydd yn edrych ymlaen at fwy o hwyl yn y byd llyfrau.

Mae’r Ŵyl yn parhau i dyfu a datblygu. Gŵyl ddwyieithog y llynedd oedd y flwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed gyda dros 5000 o docynnau wedi eu gwerthu dros 50 o ddigwyddiadau a gynhaliwyd dros ddau benwythnos gorlawn.

Croesawodd yr Ŵyl y cyflwynydd teledu, Lucy Owen, i lansio pumed Ŵyl Llên Plant Caerdydd gyda darlleniad o’i llyfr plant newydd, Boo-A-Bog in the Park.

Ymunodd plant ysgol lleol Ysgol Mynydd Bychan â’r fam a’r gyflwynwraig Lucy gan roi eu barn ar ei chyfrol gyntaf, sy’n fenter codi arian ar gyfer yr elusen blant Ysbyty Plant Arch Noa, gyda lluniau gan y darlunydd uchel ei barch Andy Catling.

Mae gŵr Lucy, y cyflwynydd teledu Rhodri, wedi cyfieithu ei chyfrol, a gafodd ei lansio gan Wasg Gomer y mis diwethaf. Cyfeiriodd Lucy at y cyffro ynghylch y cyfan sydd gan yr ŵyl i’w gynnig, gan ddweud: “Mae’r ŵyl yn ffefryn yng nghalendr ein teulu ac mae wedi bod yn hyfryd ei gweld yn tyfu a thyfu dros y pum mlynedd diwethaf yn ddigwyddiad y gall y brifddinas fod yn falch ohono. Gallaf nawr werthfawrogi’r ymdrech sy’n mynd at droi cymeriadau’n fyw, ond mae’r rheiny sydd ar restr yr ŵyl yn arbenigwyr ar wneud hyn. Mae’n hyfryd cael bod yn rhan ohoni.”

Bydd digwyddiad y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well nag erioed gyda llwyth o ddigwyddiadau cyffrous yn Gymraeg a Saesneg mewn lleoliadau ledled y ddinas. Cewch ffeindio rhaglen llawn yr Ŵyl ar lein. Mae’n cynnwys: enillydd Gwobr Ddoniol Roald Dahl, Andy Stanton, un o hoff awduron yr ŵyl, David Solomons, crëwr Hugless Douglas, David Melling, yr awduron a darlunwyr llyfrau lluniau Chris Haughton a Rob Biddulph, Mike Dilger o’r BBC, Clara Vulliamy, Huw Aaron, Anni Llŷn (Bardd Plant Cymru), Manon Steffan Ros a’r awdur lleol poblogaidd Jenny Nimmo.

Dywed Dr Siwan Rosser, arbenigwraig ar lenyddiaeth plant o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, partner yn yr Ŵyl: “Mae'n wych i weld sut mae’r ŵyl yn parhau i dyfu mewn maint a thraweffaith. Ar ôl profi mor boblogaidd llynedd roedd gan y trefnwyr dipyn o dasg wrth baratoi ar gyfer 2017, ond mae'r rhaglen amrywiol yn drawiadol ac yn gyffrous. Rydym yn falch o gefnogi'r digwyddiad hwn a byddwn yn annog pawb i beidio â cholli allan a phrynu eu tocynnau yn gynnar!”

Mae tocynnau ar gyfer yr ŵyl 25 Mawrth – 2 Ebrill 2017 ar werth o 25 Tachwedd 2016 o www.digwyddiadau-caerdydd.com neu ffoniwch 02920 230 130. Dilynwch @GwylLlenPlant neu  @CDFKidsLitFest a @digwyddiadau_caerdydd. A hoffwch www.facebook.com/GwylLlenPlant neu www.facebook.com/CDFKidsLitFest (Saesneg)

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.