Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Rheolwyr Proffesiynol Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes (ABS) yn cael ei chynnal yn yr Ysgol

16 Rhagfyr 2016

Rhwng 12 – 13 Rhagfyr 2016, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd Gynhadledd Flynyddol Rheolwyr Proffesiynol Cymdeithas Siartredig Ysgolion Busnes (ABS Siartredig).

Cyn y digwyddiad, nododd y Gymdeithas: "Mae gan dimau gwasanaethau proffesiynol gyfraniad hollbwysig at lwyddiant a chynaliadwyedd eu sefydliadau. Mae ganddyn nhw chwarae rôl bwysig wrth reoli risgiau ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol, yn ogystal â rheoli rhwymedigaethau a chyfleoedd."

Croesawyd dros 100 o bobl o dros 45 o ysgolion busnes i Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion yr Ysgol ar gyfer cynhadledd ddeuddydd a gynlluniwyd ar gyfer uwch-gynrychiolwyr o gymuned y gwasanaethau proffesiynol sy'n gweithio mewn ysgolion a chyfadrannau busnes. Roedd yn gyfle i'r gymuned gyd-fyfyrio ar heriau cyffredinol, i drafod yr ymarfer gorau, a datblygu rhwydweithiau newydd ar y thema 'Meddwl am yr Amhosibl – Goblygiadau Sefydliadol a Strwythurol Newid Mawr' (‘Thinking the Unthinkable – The Structural and Organisational Implications of Major Change’).

Agorwyd y digwyddiad gan yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd a gyflwynodd strategaeth Gwerth Cyhoeddus blaengar a mentrus yr Ysgol. Mae'r strategaeth yn sail i holl addysgu, ymchwil a llywodraethu'r Ysgol. Mewn cyflwyniad angerddol, amlinellwyd gan yr Athro Kitchener "yr angen i feithrin teimlad moesol gwerth cyhoeddus mewn ysgolion busnes." Byddai hyn "yn sicrhau bod amodau cymdeithasol ac amgylcheddol i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill yn gwella."

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Dr Andrew Glanfield, Rheolwr Ysgol Busnes Caerdydd ac sy'n arwain y 60 o aelodau staff gwasanaethau proffesiynol. Mae'r digwyddiad wedi'i ganmol gan bobl a oedd yn bresennol, a'r Gymdeithas, fel un o'r cynadleddau gorau i'w chynnal erioed. Cafwyd sesiwn gan yr Athro Julian Gould-Williams, Athro Rheoli Adnoddau Dynol Ysgol Busnes Caerdydd ar academyddion a'r gwasanaethau proffesiynol yn gweithio gyda'i gilydd i greu partneriaethau addysgeg.

Dros y deuddydd, cafwyd tair araith ragorol, gan gynnwys Robin Geller, Cofrestrydd ym Mhrifysgol Bryste. Canolbwyntiodd ar sut y mae heriau newydd ym myd Addysg Uwch, fel globaleiddio Addysg Uwch, mwy o ansicrwydd gwleidyddol a’r cynnydd yn nisgwyliadau myfyrwyr.

Soniodd Tom Robinson, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas er Hyrwyddo Ysgolion Busnes Colegol (AACSB) rhyngwladol hefyd am sut y dylai gwerth cymdeithasol fod yn rhan hanfodol o addysg busnes a rheolaeth, ac ymchwil. Aeth ymlaen i gynnig bod angen cysylltiad gwell rhwng y byd academaidd ac ymarfer, a galwodd am "fwy o ymchwil draws-ddisgyblaethol" fel bod ysgolion busnes yn llwyddo i "alluogi ffyniant byd-eang ac ysgogi arloesedd."

Cafwyd araith ddiddorol iawn gan Kim Frost, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Llundain yn sôn am y sgiliau arwain a rheoli sydd eu hangen ar reolwyr llwyddiannus.

Roedd Cinio Gala yng Nghastell Caerdydd yn rhan o'r gynhadledd ddeuddydd, ac roedd yn gyfle ychwanegol i bawb rwydweithio a datblygu cysylltiadau gweithio a phroffesiynol newydd.

Darllenwch grynodeb o'r gynhadledd gan y Gymdeithas Siartredig. Cewch hefyd ddarllen blog gan yr Athro Julian Gould Williams: Identifying and Recognising the Contributions of Professional Services Staff.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un o ysgolion busnes a rheoli blaengar y byd, sy’n canolbwyntio’n ddwys ar ymchwil a rheoli, gydag enw da am ragoriaeth i greu gwelliannau economaidd a chymdeithasol.