Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Is-Ganghellor yn mynd i arwain Aberystwyth

15 Rhagfyr 2016

Elizabeth Treasure

Mae'r Athro Elizabeth Treasure wedi'i phenodi'n Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Mae disgwyl i'r Athro Treasure, ein Rhag Is-Ganghellor presennol, ddechrau ei swydd newydd ym mis Ebrill 2017.

Yr Is-Ganghellor oedd y cyntaf i longyfarch yr Athro Treasure yn dilyn y newyddion am ei phenodiad, ac aeth ati i ganmol ei chyfraniad "rhagorol" i'r Brifysgol dros yr 21 mlynedd diwethaf.

Meddai’r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae Elizabeth wedi bod yn Ddirprwy i mi ers i mi gyrraedd yn 2012.

"Mae wedi gwneud gwaith rhagorol a gwneud cyfraniad hollbwysig at lwyddiannau presennol y Brifysgol.

"O ystyried ei gallu strategol, ei meistrolaeth o fanylion, ei phresenoldeb personol, ei chraffter gwleidyddol a'i harweiniad, nid wyf yn synnu bod Aberystwyth wedi penodi Elizabeth yn Is-Ganghellor.

"O ystyried ei gallu strategol, ei meistrolaeth o fanylion, ei phresenoldeb personol, ei chraffter gwleidyddol a'i harweiniad, nid wyf yn synnu bod Aberystwyth wedi penodi Elizabeth yn Is-Ganghellor."

Yr Athro Colin Riordan Llywydd ac Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

"Mae'n adnabod ac yn deall y sector i'r dim. Mae hefyd yn hynod gyfarwydd â chyd-destun Cymreig ac yn hen law ar arwain a rheoli sefydliad.

"Rydw i'n siŵr fy mod yn siarad ar ran cydweithwyr ledled y Brifysgol wrth ddymuno pob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd. Fel Prifysgol, mae gennym lawer o le i ddiolch i Elizabeth."

Fe gafodd yr Athro Treasure ei phenodi'n Rhag Is-Ganghellor y Brifysgol yn 2010. Roedd yn gyfrifol am feysydd o bwys gan gynnwys prosiectau yn ymwneud â chynllunio strategol, adnoddau a datblygu cynaliadwy, yn ogystal â staffio ac ystadau.

Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, fe oruchwyliodd y broses o drosglwyddo i'r Is-Ganghellor newydd a sefydlu strwythur Colegau newydd y Brifysgol. Fe luniodd Gynllun Meistr cyntaf yr Ystadau a arweiniodd at ddau adeilad ymchwil newydd yn ogystal â hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Hi hefyd sefydlodd Project Search sy'n rhoi swyddi a chyfleoedd i ddysgu i bobl ifanc ag anableddau.

Cyn cael ei phenodi'n Rhag Is-Ganghellor, roedd yr Athro Treasure yn Uwch-ddarlithydd ac yn Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol y Cyhoedd. Cafodd ddyrchafiad i rôl Athro yn 2000 a'i phenodi'n Ddeon a Rheolwr Cyffredinol yr Ysgol a'r Ysbyty Deintyddiaeth yn 2006.

Yn ystod ei hamser yn yr Ysgol Deintyddiaeth, roedd ganddi rôl ganolog mewn cyfres o astudiaethau epidemiolegol ym maes ymchwil ddeintyddol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Bu hefyd yn arwain adolygiadau rheolaidd am y fflworid sydd mewn dŵr a pha mor hir mae adferiadau deintyddol yn para.

Mae hefyd wedi llunio strwythur ariannol ac academaidd newydd ar gyfer yr Ysgol Deintyddiaeth yn ogystal â datblygu llawr o gyfleusterau addysgu â thechnoleg o'r radd flaenaf. Hi hefyd roddodd sêl ei bendith i gyfleuster hyfforddiant deintyddol cymunedol blaenllaw'r Brifysgol yn Aberpennar.

Meddai Pennaeth presennol yr Ysgol Deintyddiaeth, yr Athro Michael Lewis: "Yr Athro Elizabeth Treasure oedd Deon yr Ysgol Deintyddiaeth a Phennaeth Grŵp Gwasanaeth Deintyddol y GIG rhwng 2006 a 2010.

"Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, fe wnaeth gyfraniad pwysig i'r Ysgol, gan gynnwys gweddnewid strwythur adrannol hanesyddol yr Ysgol yn themâu ymchwil, ac arwain rhaglen gyfalaf i greu llawr ymchwil penodedig yn Ysbyty Deintyddol y Brifysgol.

"Mae'r newidiadau hyn wedi galluogi'r Ysgol i ffynnu yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'i helpu i ennill ei phlwyf fel Ysgol Deintyddiaeth orau'r DU o ran ymchwil a'r addysg a roddir..."

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Elizabeth am ei chyfraniad i'r Ysgol a'r Brifysgol a dymuno'n dda iddi yn ei rôl newydd."

Yr Athro Michael A O Lewis Cyfarwyddwr, Bwrdd Deintyddol Clinigol

Bydd y Brifysgol yn mynd ati nawr i ddechrau'r broses o benodi olynydd. Bydd rhagor o fanylion ar gael cyn bo hir.

Rhannu’r stori hon