Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yw’r prifysgol cyntaf yng Nghymru i dderbyn teitl Athro Regius

9 Rhagfyr 2016

Graham Hutchings receiving Regius Professorship
L-R: Vice-Chancellor Professor Colin Riordan, Professor Karen Holford, Professor Graham Hutchings, Chris Skidmore MP and Lord Bourne

Cyflwynodd Gweinidog Cabinet Llywodraeth y DU dros y Cyfansoddiad, Mr Chris Skidmore AS ynghyd ȃ Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru yr Arglwydd Bourne, yr anrhydedd i'r Brifysgol mewn seremoni a gynhaliwyd ddydd Gwener 9 Rhagfyr 2016.

Mae teitl Athro Regius yn ddyfarniad prin a mawreddog a roddir gan Ei Mawrhydi y Frenhines i gydnabod ymchwil o safon eithriadol o uchel mewn sefydliad. Prifysgol Caerdydd yw'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd.

Ym mis Mehefin eleni, y Brifysgol oedd un o 12 o brifysgolion a anrhydeddwyd i nodi Pen-blwydd Ei Mawrhydi yn 90 oed. Cyn hyn, dim ond 14 oedd wedi'u dyfarnu ers teyrnasiad y Frenhines Fictoria. Credir bod y teitl Athro Regius cyntaf wedi'i roi i Brifysgol Aberdeen yn 1497 gan y Brenin James IV.

Cyflwynwyd y fraint brin hon i gydnabod ymchwil ac addysgu eithriadol yr Ysgol Cemeg dros flynyddoedd lawer, yn ogystal â'i rôl wrth sbarduno twf a gwella cynhyrchiant yn y DU.

Procession in CCI Lab

Mae'r Ysgol ar flaen y gad yn y modd y mae'n troi gwaith ymchwil cemegol sylfaenol yn amrywiaeth eang o gymwysiadau sy'n cael effaith gymdeithasol o bwys ym meysydd gwyddorau gofal iechyd, puro dŵr, newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn, ymhlith llu o rai eraill.

Rhoddwyd Teitl Athro Regius i'r Athro Graham Hutchings, cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) ac un o arbenigwyr mwyaf rhagorol y byd ym maes catalysis – y broses o gyflymu adweithiau cemegol er mwyn gwneud cynhyrchion yn rhatach, yn lanach, yn fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy.

Ar ôl cyflwyno'r warant cafodd y Gweinidogion ei tywys o gwmpas y cyfleusterau o'r radd flaenaf yn CCI a chyfarfu â'r Athro Hutchings i glywed mwy am weithgaredd ymchwil a rhaglenni addysg yr Ysgol Cemeg.

Dywedodd yr Athro Graham Hutchings: “Mae derbyn teitl Athro Regius yn anrhydedd enfawr i fi. Cyflwynir yr anrhydedd ar sail rhagoriaeth academaidd ac effaith, ac rydym yn rhagori yn y naill faes fel y llall yn Sefydliad Catalysis Caerdydd..."

"Mae catalysis yn gysylltiedig â phopeth a wnawn, ac mae'n cynnig atebion i'r rhai o'r problemau mwyaf dybryd megis darparu bwyd, canfod cyffuriau, ynni glân a chynhesu byd-eang. Heb os nac oni bai, bydd yr anrhydedd mawreddog hwn yn tynnu hyd yn oed yn fwy o sylw at ein gwaith arloesol wrth geisio ymateb i'r heriau hyn."

Yr Athro Graham Hutchings Professor of Physical Chemistry and Director of the Cardiff Catalysis Institute

Dywedodd Chris Skidmore, y Gweinidog dros y Cyfansoddiad: "Yn y DU y mae rhai o brifysgolion gorau'r byd ac rwy'n teimlo'n freintiedig iawn i allu eu cydnabod gyda gwobr uchel ei bri fel hon..."

"Mae ymchwil Prifysgol Caerdydd yn batrwm ac yn golygu y gall ein gwlad barhau'n arloesol ac yn hyblyg yn y farchnad fyd-eang am genedlaethau i ddod."

Chris Skidmore Gweinidog dros y Cyfansoddiad

"Gall pob un o'r prifysgolion sy'n derbyn teitl Athro Regius eu hystyried eu hunain yn gwbl haeddiannol o'r anrhydedd mawr hwn, rwy’n hapus iawn i weld Prifysgol o Gymru yn derbyn yr anrhydedd am y tro cyntaf.”

"Fel Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, mae'n rhoi pleser aruthrol i mi ddathlu Athro Regius cyntaf Cymru - un o'r anrhydeddau mwyaf uchel ei barch a phrin ym maes addysg yn y DU."

Yr Arglwydd Bourne Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru

Ychwanegodd yr Arglwydd Bourne, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru: "Mae'n cydnabod nid yn unig ymchwil o ansawdd uchel ond yr addysg o safon rhagorol ym Mhrifysgol Caerdydd.”

Dewiswyd deiliaid newydd y teitl Athro Regius drwy gystadleuaeth agored, gyda phanel arbenigol annibynnol o feirniad o arbenigwyr busnes ac academaidd. Mae statws Athro Regius yn adlewyrchiad teilwng o ansawdd eithriadol o uchel yr addysgu a'r ymchwil mewn sefydliad.

Rhannu’r stori hon

Mae’n cyfleuster arloesol yn cefnogi ymchwil sy’n arwain y byd yn y gwyddorau.