Ewch i’r prif gynnwys

Cymrodoriaeth Syr Henry Wellcome

8 Rhagfyr 2016

 Dr James Kolasinski

Mae Ymddiriedolaeth Wellcome wedi cyflwyno Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol Syr Henry Wellcome i Dr James Kolasinki o'r Ysgol Seicoleg.

Mae'r dyfarniad yn galluogi ymchwilwyr ôl-ddoethurol sydd newydd gymhwyso i ddechrau gyrfaoedd ymchwil annibynnol a gweithio yn rhai o amgylcheddau ymchwil gorau'r byd.

Bydd Dr Kolasinski yn gwneud ei Gymrodoriaeth Henry Wellcome yng Nghanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd (CUBRIC). Fe gostiodd y ganolfan newydd hon £44m ac mae'n rhan o'r Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yn defnyddio sganiwr MRI 7-tesla i ddeall sut mae gwahanol rannau o'r ymennydd yn siarad â'i gilydd i gefnogi deheurwydd dynol.

Ymunodd Dr Kolasinski â Phrifysgol Caerdydd o Brifysgol Rhydychen lle'r oedd ganddo Gymrodoriaeth Ymchwil Iau yng Nghanolfan fMRI yr Ymennydd yn Rhydychen. Fe enillodd ei raddau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Rhydychen, ac mae hefyd wedi cael Cymrodoriaeth von Clemm ym Mhrifysgol Harvard.

Fe gafodd y Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd newydd, lle bydd Dr Kolasinski yn cynnal ei ymchwil, ei hagor gan y Frenhines ym mis Mehefin 2016. Mae'n dod ag arbenigedd ynghyd sydd wedi galluogi Prifysgol Caerdydd i ennill ei phlwyf fel un o’r tair prifysgol orau yn y DU ym meysydd Seicoleg, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth, ochr yn ochr â phrifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt.

Mae'r Ganolfan bedair gwaith yn fwy na chyfleusterau ymennydd blaenorol y Brifysgol ac mae'n cynnig yr offer niwroddelweddu gorau yn y byd i helpu gwyddonwyr i ddatgelu dirgelion yr ymennydd dynol.

Mae'r cyfleuster newydd wedi'i ariannu'n rhannol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC), Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, y Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC), Ymddiriedolaeth Wellcome, Llywodraeth Cymru a Sefydliad Wolfson.

Gyda'i gilydd, mae'r buddsoddiadau hyn yn cefnogi arloesedd ym maes ymchwil delweddu'r ymennydd o’r radd flaenaf, gan gynnwys creu swyddi ymchwil hynod fedrus yng Nghymru. Nod y gwyddonwyr yn y Ganolfan yw cynnig cipolwg digynsail ar achosion cyflyrau niwrolegol a seiciatrig megis dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol, yn ogystal â deall sut mae ymennydd normal ac iach yn gweithio.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i gynnig amgylchedd dysgu deinamig sy’n ysgogi, a arweinir gan ein gwaith ymchwil blaenllaw ym maes seicoleg a niwrowyddoniaeth.