Ewch i’r prif gynnwys

Dadansoddwch hyn

7 Rhagfyr 2016

Analyse this

Gall dysgwyr sy'n astudio amrywiaeth o gyrsiau i'w helpu i gael swydd neu astudio cwrs addysg uwch fynd ati nawr i ddysgu hanfodion Dadansoddeg Gymdeithasol yn rhan o'u hastudiaethau. Mae hyn o ganlyniad i berthynas hirdymor rhwng Prifysgol Caerdydd ac Agored Cymru.

Alan Smith o Agored Cymru a'r Brifysgol sydd wedi datblygu'r unedau dysgu hyn sy'n seiliedig ar Ddadansoddeg Gymdeithasol. Bydd y rhain ar gael naill ai drwy Ddiploma Mynediad at Addysg Uwch Agored neu fel unedau unigol y gellir eu defnyddio ar gyrsiau eraill.

Dywedodd Judith Archer, Arbenigwr Cwricwlwm a Rheolwr Datblygu Sgiliau Hanfodol Agored Cymru: "Mae gennym gytundeb gwaith gyda Phrifysgol Caerdydd i geisio ehangu'r defnydd o Ddadansoddeg Gymdeithasol. Mae hyn yn wych i ni gan ei fod yn dangos bod addysg uwch yn barod i weithio gyda ni ac yn gwerthfawrogi ein sgiliau ac arbenigedd. Mae Prifysgol Caerdydd yn cael ei hystyried ymysg  y goreuon yn y DU ac yn sicr y brifysgol orau yng Nghymru.

"Mae cyflogwyr yn rhoi pwyslais cynyddol ar weld bod darpar weithwyr yn gallu dangos y sgiliau dadansoddol hyn. Gall data fod yn hynod bwerus iawn ond rhaid ei ddefnyddio yn gywir.

"Mae Dadansoddeg Gymdeithasol yn sgil gwych a bydd yn paratoi dysgwyr ar gyfer mynd i'r brifysgol, beth bynnag fo'r pwnc y byddant yn eu hastudio. Hyd yn oed os ydynt yn astudio cwrs hanes yn y brifysgol, bydd angen iddynt wneud rhywfaint o waith dadansoddi. Mae Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd yn cynnig nifer o raglenni gradd y gall myfyrwyr fynd yn eu blaen i'w hastudio, gan gynnwys BSc mewn Dadansoddeg Gymdeithasol. Bydd yr unedau hyn yn helpu i baratoi'r rhai sydd am gael lle ar y cwrs."

Meddai Rhys Jones, darlithydd Dulliau Meintiol mewn Addysg Bellach a thiwtor derbyn myfyrwyr yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol: "Ymchwiliad gwyddonol o brosesau cymdeithasol drwy ddefnyddio dadansoddiad meintiol yw Dadansoddeg Gymdeithasol. Mae amrywiaeth eang o gyflogwyr yn gwerthfawrogi'r sgiliau hyn. Nid oes digon o bobl sydd â'r sgiliau hyn; mae mwy iddo na chyfrifo ystadegau yn unig. Rhaid iddynt allu cwestiynu beth sy'n cael ei gyflwyno gan eraill fel tystiolaeth ac edrych ar elfennau o wybodaeth sy'n cael ei honni.

"Bydd myfyrwyr sy'n mynd ymlaen i astudio BSc mewn Dadansoddeg Gymdeithasol yn cael y cyfle i wneud modiwl lleoliad gwaith. Bydd hyn yn eu galluogi i ddefnyddio'r sgiliau y maent wedi'u dysgu ar y cwrs yn y gweithle. Mae lleoliadau gwaith wedi'u trefnu gyda Llywodraeth Cymru, Agored Cymru ac amrywiaeth eang o gyrff lleol yn y sector gwirfoddol.

"Nid gwneud rhagor o fathemateg neu ystadegau yw diben y cyrsiau hyn. Y nod yw deall cymdeithas drwy ddadansoddi patrymau a bod yn ddinasyddion gwybodus a beirniadol.  Bydd y sgiliau a'r cysyniadau a ddatblygir yn ystod y cwrs o fantais i'n myfyrwyr.

"Yr her nawr yw gwneud yn siŵr bod myfyrwyr ledled Cymru yn cael y cyfle i astudio'r cyrsiau arloesol a chyffrous hyn."

Cewch ragor o wybodaeth yma.  Agored Cymru yw'r corff dyfarnu blaenllaw ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Mae wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod dysgwyr o bob oed a lefel yn manteisio'n llawn ar eu gallu.

Rhannu’r stori hon