Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau’n cydnabod rhagoriaeth myfyriwr

6 Rhagfyr 2016

Mae myfyrwyr sy'n perfformio gorau o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi'u cydnabod am eu gwaith caled a'u cyflawniadau.

Roedd y seremoni cyflwyno’r gwobrau yn dathlu myfyrwyr israddedig am eu gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd 2015 i 2016.  Hefyd gwobrwywyd myfyrwyr newydd a dderbyniodd ysgoloriaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol 2016 i 2017, gan gynnwys myfyrwyr ar y cwrs gradd BSc Cynllunio Trefol a Dylunio ac amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig a addysgir gan gynnwys MSc Cynllunio a Datblygu Rhyngwladol, MSc Cynllunio Cynaliadwyedd a Pholisi Amgylcheddol, MSc Cynllunio a Datblygu Gofodol ac MA Dylunio Trefol.

Meddai Megan David sy’n astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Cynaliadwyedd, Cynllunio a Pholisi Amgylcheddol ac a dderbyniodd wobr: "Penderfynais wneud MSc i ddatblygu fy nealltwriaeth academaidd a damcaniaethol am gynaliadwyedd. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio i sefydliad datblygu cynaliadwy ochr yn ochr â’m hastudiaethau sy'n rhoi dealltwriaeth drylwyr i mi o'r materion a’r dadleuon allweddol ynghylch y pwnc. Mae'n wych cael cyfle i drafod y materion rwy’n teimlo'n angerddol amdanynt â darlithwyr a chyd-fyfyrwyr ar y cwrs. Rwy’ mor falch o fod wedi cael gwobr."

Cyflwynwyd tystysgrif i fyfyrwyr y mae eu hysgoloriaethau’n parhau i’w hail a’u trydedd flwyddyn er mwyn cydnabod eu bod wedi cynnal eu perfformiad drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Dyfarnwyd Gwobr Bill Unsworth am ragoriaeth mewn cyflawniad academaidd gan RTPI Cymru i Oliver Jones.

Rhannu’r stori hon