Ewch i’r prif gynnwys

Thomas v Thomas: Battle of the Bards

22 Hydref 2014

Pwy yw pencampwr barddonol Cymru, yn eich barn chi? Wrth i'r byd ddathlu canmlwyddiant geni Dylan eleni, pam mae bardd arall enwog Cymru, R.S. Thomas, yn aml yn cael ei anghofio?

Bydd yr ysgolheigion a'r ddau efell Damian Walford Davies a Jason Walford Davies yn mynd benben i drafod y cwestiynau hyn. Bydd un yn dadlau dros Dylan Thomas a'r llall dros R.S. Thomas, yn y frwydr hon rhwng dau o gewri llenyddol yr ugeinfed ganrif ar Pethe, rhaglen S4C am y celfyddydau, yr wythnos hon (dydd Sul 26 Hydref 9pm).

Yn y gornel las, y Dylan drygionus oedd yn colli'r ysgol, a aeth â'r Saesneg i gyfeiriadau newydd radical gyda'i ddawn dweud. Yn y gornel goch, R.S. eironig, yr aeth ei linellau mwy cynnil ag ef i bellafoedd y gofod i chwilio am Dduw.

Meddai'r Athro Damian Walford Davies, Pennaeth Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd sy'n ymladd dros Dylan Thomas: "Ym mrwydr y beirdd, fi sy'n gofalu am 'gum shield' Dylan, ond ar ddiwedd y frwydr, efallai y bydd mwy nag un enillydd.

Meddai ei efell Dr Jason Walford Davies, Uwch Ddarlithydd a Chyd-Gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil R.S. Thomas ym Mhrifysgol Bangor: "Rwy' i yng nghornel R.S. Thomas fel un sy'n edmygu ei ddycnwch barddonol, ond hefyd ei allu i lorio darllenydd â'i gerddi."

Wrth geisio cyflwyno eu dadleuon, mae'r gefeilliaid yn mynd ar deithiau gwahanol ledled Cymru. Yn Abertawe, mae Damian yn cwrdd â Kate Crockett, y newyddiadurwraig sydd wedi ysgrifennu Mwy na Bardd: Bywyd a Gwaith Dylan Thomas, y bywgraffiad Cymraeg cyntaf i Dylan Thomas. Hefyd mae'n teithio i sied enwog y bardd yn Nhalacharn ac yn rhoi her i ddosbarth cynganeddu yng Nghaerdydd lle mae'n ceisio ateb y beirniaid hynny sydd wedi amau Cymreictod Dylan.

Yn y cyfamser, mae Jason yn mynd i gartref R.S. Thomas yn y Rhiw, ger Aberdaron, lle mae'n cwrdd â Gwyn Thomas, yr ysgolhaig a'r bardd. Hefyd pan fydd yn cwrdd â disgyblion Blwyddyn 8 Ysgol Tryfan, Bangor, mae'n dadlau bod gan gerddi personol ac ysbrydol y bardd apêl wirioneddol ryngwladol er gwaethaf delwedd ddirgel, ddwys a thywyll yr offeiriad.

Cyn dod i'w casgliadau rhyfeddol a lliwgar, mae'r ddau'n cwrdd yn y Mwmbwls, Abertawe, ynghyd â'r Athro M Wynn Thomas o Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe, sy'n arbenigo ar y ddau Thomas.

Darlledir Dylan Thomas v RS Thomas: Brwydr Y Beirdd ddydd Sul 26 Hydref am 9pm ar S4C. Ceir rhagor o wybodaeth ynwww.s4c.co.uk/pethe/2014/10/thomas-v-thomas/

Rhannu’r stori hon