Ewch i’r prif gynnwys

Gwleidyddiaeth bwyd newydd

5 Rhagfyr 2016

Field

Yn nathliad pen-blwydd olaf yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio’n 50 oed, cadeiriodd yr Athro Paul Milbourne, Pennaeth yr Ysgol, ddigwyddiad ar wleidyddiaeth bwyd newydd.

Roedd y digwyddiad yn tynnu ar arbenigedd rhyngddisgyblaethol cymuned ymchwil bwyd sydd wedi’i hen sefydlu yn yr Ysgol.  Mae gan staff academaidd arbenigedd a diddordebau ymchwil yn y berthynas rhwng rhwydweithiau bwyd confensiynol ac amgen ac arferion defnyddio bwyd.  Hefyd maen nhw’n arwain gwaith ymchwil ar y cydadwaith rhwng systemau bwyd byd-eang a lleol, tyfu bwyd cymunedol, caffael bwyd cyhoeddus, cyfiawnder bwyd, ardaloedd daearyddol anifeiliaid, a’r sector bwyd cymunedol.

Wrth siarad am y digwyddiad meddai Paul: "Roedd yn cynnig amrywiaeth o safbwyntiau beirniadol ar fwyd, gan dynnu ar enghreifftiau o astudiaethau achos o'r DU a ledled y byd. Roedd yr ystod o siaradwyr a fynychodd yn canolbwyntio ar y ffordd y mae llywodraethiant y system fwyd yn newid a bu’n trafod y ffyrdd y mae bwyd yn cael ei dynnu fwyfwy i ddadleuon cymdeithasol am anghydraddoldeb, cyfiawnder a moeseg."

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Paul Milbourne, ac roedd yn cynnwys cyflwyniadau gan Agatha Herman, Antonio Ioris, Terry Marsden, Ana Moragues Faus, Kevin Morgan, Roberta Sonnino ac Andy Williams.

Rhannu’r stori hon