Ewch i’r prif gynnwys

Inspired voices

15 Hydref 2014

Mae Côr Ysbrydoli Prifysgol Caerdydd, sy'n cynnwys staff o bob rhan o'r sefydliad, yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf gyda pherfformiad rhad ac am ddim ar gyfer staff a myfyrwyr.

Bydd y côr yn perfformio amser cinio ar 21 Hydref ac maent yn gwahodd staff a myfyrwyr i ddod i'w gweld ac ymuno â'r dathliadau.

Bydd y perfformiad yn dechrau am 12.30pm yn Oriel Viriamu Jones yn y Prif Adeilad. Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y perfformiad.

Mae'r côr wedi dewis Ymchwil Alzheimer y DU fel elusen ar gyfer y digwyddiad.

Sefydlwyd Côr Ysbrydoli i annog staff ar draws y Brifysgol i ymgysylltu ac fel ffordd o'u hannog i feddwl am eu lles.

Yn ei flwyddyn gyntaf, mae'r côr wedi perfformio mewn sawl man gan gynnwys Neuadd Dewi Sant ar gyfer Seremoni Raddio 2014 a Stadiwm y Mileniwm ar gyfer seremoni agoriadol Cwpan y Byd Rygbi'r Gynghrair.

Mae'r côr bob amser yn awyddus i ddenu aelodau newydd. Os oes gennych awydd ymuno, beth am fynd draw i'r Neuadd Fawr yn Undeb y Myfyrwyr am 1 o'r gloch bob dydd Mawrth. Nid fydd clyweliad – brwdfrydedd yw'r cyfan fydd ei angen arnoch chi!

Cewch y newyddion diweddaraf am y côr drwy ei ddilyn ar Twitter@CUInspireChoir.

Rhannu’r stori hon