Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol yn agor ystafell efelychu ddeintyddol £2m

2 Rhagfyr 2016

Clinical Simulation Suite staff with Vaughan Gething AM

Bydd myfyrwyr yn Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd nawr yn gallu manteisio ar ystafell efelychu newydd sbon sydd â'r cyfarpar diweddaraf ar gyfer ymarfer pob agwedd ar ddeintyddiaeth.

Bydd y cyfleuster hyfforddiant hynod soffistigedig, a agorwyd heddiw gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd, Lles a Chwaraeon, yn galluogi deintyddion, therapyddion deintyddol a hylenwyr deintyddol o dan hyfforddiant, i gynnal gweithdrefnau ar fodelau gweithdrefnau ar ddoliau cyn gweithio mewn clinigau cleifion.

"Bydd y cyfleuster addysgu newydd yma yn rhoi amgylchedd modern ar gyfer yr hyfforddiant cyn-glinigol a roddir i'r gweithlu deintyddol yng Nghymru."

Yr Athro Michael A O Lewis Cyfarwyddwr, Bwrdd Deintyddol Clinigol

Meddai'r Athro Mike Lewis, Deon a Phennaeth yr Ysgol Deintyddiaeth: "Yn hollbwysig, bydd y datblygiad hwn hefyd yn fodd o hyfforddi deintyddion, therapyddion deintyddol a hylenwyr deintyddol gyda'i gilydd fel grŵp aml-broffesiynol gan gyflawni dyhead Llywodraeth Cymru i roi'r gofal iechyd mwyaf effeithiol i'r boblogaeth."

Vaughan Gething AM and Prof. Mike Lewis in dental simulation suite

“Mae'r Ysgol Deintyddiaeth yn cael ei chydnabod yn gyffredinol fel yr orau yn y DU. Bydd y dechnoleg arloesol yma yn gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr sy'n hyfforddi yng Nghymru yn gallu dysgu a meithrin eu sgiliau mewn amgylchedd fydd yn eu paratoi'n dda ar gyfer gweithio yn y maes."

Vaughan Gething AC Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer Iechyd, Lles a Chwaraeon

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: “Bydd dod â therapyddion deintyddol, hylenwyr deintyddol a deintyddion ynghyd i gael hyfforddiant yn cynnig amgylchedd tebygach i'r un y byddant yn gweithio ynddo yn y dyfodol, ac rydw i'n credu y bydd hyn o les i gleifon."

Mae'n bwysig bod pob myfyriwr deintyddol yn dysgu sgiliau deintyddol sylfaenol mewn amgylchedd diogel fel yr ystafell efelychu newydd cyn symud i glinig newydd lle byddant yn trin cleifion o dan oruchwyliaeth agos. Bydd yr ystafell yn galluogi myfyrwyr i ddysgu nifer o sgiliau clinigol gan gynnwys llenwadau syml; triniaethau cig y dannedd; gweithdrefnau endodontig; gwaith pontio a gosod corunnau; dannedd gosod; a thynnu dannedd mewn llawdriniaethau. Byddant hefyd yn dysgu'r sgiliau technegol sy'n gysylltiedig ag adeiladu corunnau a dannedd gosod.

Bydd yr ystafell ar ei newydd wedd hefyd yn gwneud yn siŵr bod yr Ysgol yn parhau i fodloni rheoliadau'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol er mwyn diogelu cleifion, a bydd yn gwella profiad y myfyrwyr yn sylweddol.

Two Dental students using facilities in dental suite
Pre-Clinical Facility (Phantom Head)

Meddai Thomas Cole, myfyriwr deintyddol israddedig: "Rydym i gyd wrth ein bodd gyda'r Labordy Sgiliau Clinigol yma yn Ysgol Deintyddiaeth Caerdydd. Mae'r cyfleusterau modern yn ein galluogi i ddatblygu ein sgiliau ymarferol mewn amgylchedd perffaith cyn symud ymlaen i glinigau cleifion. Rydym yn falch iawn ac yn teimlo'n freintiedig o gael y cyfle i ddysgu mewn cyfleusterau gwych o'r fath!"

Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd yw'r unig ysgol deintyddiaeth yng Nghymru. Mae'n cynnig arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil ddeintyddol, addysgu a gofal i gleifion. Yn ôl y Guardian a the Times Good University Guide 2016 ni yw'r ysgol deintyddiaeth orau yn y DU, ac mae ein staff academaidd a chlinigol yn cael eu cydnabod fel arbenigwyr yn eu maes a'u bod yn rhoi gwasanaethau clinigol gwerthfawr i bobl Cymru yn ogystal â'u cyfrifoldebau academaidd. Roedd 95% o fyfyrwyr yr Ysgol hefyd yn fodlon eu byd yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr - BDS (2016) a 96% oedd y sgôr ar gyfer adnoddau dysgu.