Ewch i’r prif gynnwys

Safle Caerdydd yn y 30 uchaf yn y ‘Table of Tables’

10 Hydref 2014

Mae Prifysgol Caerdydd wedi adennill ei lle yn y 30 uchaf yn 'Table of Tables' y Times Higher Education.

Fe wnaeth Caerdydd sicrhau'r 26ain safle yn y seithfed tabl blynyddol, sy'n dod â data ynghyd o'r tri phrif dabl cynghrair domestig - The Complete University Guide, The Guardian, a The Times and The Sunday Times Good University Guide.

Cododd Caerdydd 12 lle i'r 23ain safle yn y Complete University Guide 2015, dringodd dri lle yn safleoedd y Guardian 2015, a symudodd i fyny chwe lle i'r 27ain safle yn The Times and The Sunday Times Good University Guide 2015.

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Rydym yn falch iawn o'n cynnydd yn y tair prif restr rancio domestig, ond rydym yn hynod falch hefyd ein bod yn parhau i wella'n rhyngwladol, ar ôl dychwelyd i'r 125 uchaf yn QS World Rankings eleni. Mae adennill ei lle yn y 30 uchaf yn 'Table of Tables' y Times Higher Education yn dystiolaeth o waith caled staff a myfyrwyr, ac yn ailddatgan ein trywydd am i fyny fel prifysgol sy'n cyflawni'n uchel.'

Rhannu’r stori hon