Ewch i’r prif gynnwys

Adeiladu System Arloesedd i Gymru

1 Rhagfyr 2016

Woman asking question from audience

Sut gall Cymru adeiladu rhwydwaith o ganolfannau arloesedd busnes sy'n gallu creu swyddi a hybu'r economi?

Bydd pedwar o entrepreneuriaid ac arbenigwyr blaenllaw yn rhoi eu barn am ffyrdd newydd o weithio mewn digwyddiad gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd ar 7 Rhagfyr.

Byddant yn trin a thrafod sut gallai Cymru ddatblygu rhwydwaith o Ganolfannau Arloesedd a Meithrin fydd yn cynnwys masnachwyr unigol, microfusnesau a busnesau bach a chanolig, yn ogystal â chwmnïau corfforaethol mawr a rhyngwladol.

Dyma'r siaradwyr yn y digwyddiad: Gareth Jones, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Arloesedd Menter Cymru; Victoria Norman, Sylfaenydd Signum; Dr John Justin, Pennaeth Datblygu Canolfannau Meithrin yng Nghanolfan Gwyddorau Bywyd Cymru, a Dr Nick Bourne, Pennaeth Datblygu Masnachol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Meddai Gareth Jones: "Mae gan arloesedd rôl allweddol er mwyn tyfu economi Cymru..."

"Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ei hymdrechion ar arloesedd ac yn gweithio'n galed er mwyn datblygu rhwydwaith ar gyfer Cymru gyfan fydd yn cael effaith go iawn."

Gareth Jones Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Arloesedd Menter Cymru

Ychwanegodd Nick Bourne, sydd hefyd yn Bennaeth Rhwydwaith Arloesedd Caerdydd: "Mae canolfannau arloesedd yn cynnig amgylcheddau arloesol ac yn creu cymunedau cefnogol sy'n hanfodol er mwyn i'r economi a fusnesau allu tyfu a ffynnu..."

"Byddwn yn ystyried sut bydd y dirwedd arloesedd yn edrych yn y dyfodol, sut ddylai canolfannau ddatblygu, ac ystyried beth fydd ei angen ar fusnesau a sefydliadau yn y dyfodol."

Dr Nick Bourne Pennaeth Datblygu Masnachol ym Mhrifysgol Caerdydd

Bydd y digwyddiad yn crynhoi llwyddiant Canolfan Arloesedd Menter Cymru ac yn ystyried dyfodol Canolfannau Arloesedd yng Nghymru. Bydd hefyd yn edrych ar rôl Canolfan Arloesedd Prifysgol Caerdydd ac yn rhannu profiad y defnyddwyr.

Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedig, Ysgol Busnes Caerdydd, Rhodfa Colum, Caerdydd. CF10 3EU. Bydd cofrestru'n agor am 6pm a bydd y cyflwyniadau'n dechrau am 6.30pm.

Gofynnir i'r rhai sydd am ddod gofrestru ymlaen llaw yma.

Bydd lluniaeth a chyfle i rwydweithio ar ôl y sesiwn.

Mae Rhwydwaith Arloesedd hynod lwyddiannus Prifysgol Caerdydd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim drwy gydol y flwyddyn. Mae'n dod â busnesau, sefydliadau a'r byd academaidd ynghyd ynghylch thema arloesedd.

Rhannu’r stori hon

Digwyddiadau rhwydweithio am ddim i bobl fusnes, academyddion a'r rheini sy'n gweithio ar gyfer sefydliadau cefnogi busnes, megis cynghorau lleol neu Lywodraeth Cymru.