Ewch i’r prif gynnwys

Tair ysgoloriaeth i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd

9 Hydref 2014

Mae tri myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi derbyn ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer eu hastudiaethau doethurol ac i gyfrannu at fodiwlau dysgu israddedig a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd Rhidian Thomas, Ben Screen a Sara Orwig yn parhau gyda'u hastudiaethau yn y Brifysgol ar ôl cwblhau eu graddau israddedig yn ddiweddar.

Bydd Rhidian, sy'n enedigol o Landysul, yn canolbwyntio ar effaith y newid yn yr hinsawdd ar y berthynas rhwng pysgod sy'n gynhenid i Gymru a'r rhywogaethau hynny sy'n estron i ddyfroedd Cymreig. Bydd ei waith ymchwil yn cael ei gynnal yn Ysgol y Biowyddorau.

Bydd technoleg iaith a chyfieithu awtomatig yn ganolbwynt i ymchwil Ben Screen. Yn hanu o Flaenau Gwent ac yn astudio yn Ysgol y Gymraeg, mae'n gobeithio ychwanegu at y corff cyfyngedig o ymchwil ar botensial technoleg iaith i gefnogi ymlediad yr iaith Gymraeg.

Bydd Sara Orwig o Fangor, sydd hefyd yn astudio yn Ysgol y Gymraeg, yn archwilio cyfnewid côd mewn llenyddiaeth Gymraeg, a'i oblygiadau o safbwynt hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol. Bydd hi'n astudio o dan oruchwyliaeth yr Athro Sioned Davies a'r Athro Diarmait Mac Giolla Chriost.

Fe wnaeth Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Uwch ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau longyfarch y tri:

"Fel Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd hefyd yn digwydd bod yn aelod staff ym Mhrifysgol Caerdydd, rwy'n hynod falch bod gennym dri myfyriwr ymchwil arall i ymuno â'r wyth myfyriwr ymchwil sydd gennym eisoes wedi eu cyllido drwy'r Coleg Cymraeg.

"Beth sy'n wirioneddol gyffrous yw bod y myfyrwyr hyn yn dod o ystod eang o wahanol ddisgyblaethau - o'r Gymraeg a Chyfrifiadureg i'r Gwyddorau Biolegol a Chymdeithasol. Nid yw'r iaith Gymraeg yn eich cyfyngu i bynciau arbennig. Dymuniadau da iddynt ar ddechrau eu gyrfaoedd ymchwil - dyma ddarlithwyr ac ymchwilwyr y dyfodol."

Rhannu’r stori hon