Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Modern

30 Tachwedd 2016

Woman in classroom with two young girls

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wedi ymweld ag ysgol uwchradd yn ne Cymru i weld y rhaglen Ieithoedd Tramor Modern lwyddiannus ar waith.

Mae prosiect peilot Mentora Ieithoedd Tramor Modern yn gynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan ei chynllun Dyfodol Byd-eang pum mlynedd o hyd. Ei nod yw cynyddu'r niferoedd sy'n astudio ac yn dysgu ieithoedd yng Nghymru.

Mae Ysgol Gyfun Bryn Hafren yn y Barri yn un o 48 o ysgolion ledled Cymru sy'n cymryd rhan yn y peilot lle caiff ieithyddion modern israddedig o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe eu hyfforddi i fentora disgyblion blwyddyn 9 dros gyfnod o chwe wythnos.

Mae 12 disgybl o Fryn Hafren wedi'u henwebu i gael eu mentora gan israddedigion ieithoedd ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Amy Walters-Bresner, Pennaeth Ieithoedd ym Mryn Hafren: "Bwriad ac amcan clir Bryn Hafren wrth gymryd rhan yn y peilot mentora hwn yw cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio ieithoedd tramor modern yng Nghyfnod Allweddol 4. Bydd yn codi dyheadau ac yn gwneud i'r disgyblion gredu eu bod yn gallu llwyddo, a bod dysgu iaith yn sgil gydol oes..."

"Mae'r peilot mentora wedi bod yn brosiect pwysig o ran newid argraff y disgyblion o ddysgu ieithoedd gan eu bod yn gweld sut mae ieithoedd yn berthnasol y tu allan i'r ystafell ddosbarth ac yn y 'byd go iawn'. O ganlyniad i hynny, mae'r disgyblion yn fwy na pharod i gymryd rhan mewn sesiynau mentora ac yn mwynhau meithrin cysylltiadau cadarnhaol gyda'u mentoriaid."

Amy Walters-Bresner Pennaeth Ieithoedd yn Ysgol Gyfun Bryn Hafren

"Yn wir, rydyn ni wedi cael adborth anhygoel drwy lais y myfyrwyr eleni, ac mae rhestr aros erbyn hyn o ddisgyblion a hoffai gymryd rhan. Mae'r data am y rhai a gymerodd ran yn y peilot y llynedd yn ategu effaith y prosiect gan fod ieithoedd tramor modern yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd yng Nghyfnod Allweddol 4 am yr ail flwyddyn."

Ac yntau yn ei ail flwyddyn erbyn hyn, mae'r peilot mentora yn llwyddo i godi proffil yr ieithoedd hyn ac yn cynyddu nifer y disgyblion sy'n astudio iaith dramor fel pwnc TGAU. Mae hefyd yn ehangu gorwelion y disgyblion ac yn codi disgwyliadau.

Fe gymerodd 27 o ysgolion ran yng ngham un y prosiect, a dywedodd dros hanner ohonynt bod niferoedd uwch yn eu dosbarthiadau TGAU, gan gynnwys un ysgol lle caiff dosbarth TGAU mewn ieithoedd tramor ei gynnal am y tro cyntaf ers tair blynedd. Mae'r galw wedi cynyddu'n sylweddol yng ngham dau gan fod 48 o ysgolion yn cymryd rhan ynddo erbyn hyn ac mae 18 o ysgolion eraill wedi gofyn am gael cymryd rhan yn y prosiect.

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: "Mae'n wych gweld ein prifysgolion, consortia rhanbarthol ac ysgolion yn dod ynghyd i gefnogi a llywio'r cynllun hwn er mwyn annog mwy o ddisgyblion i astudio ieithoedd..."

"Gall dysgwyr o bob cefndir a gallu elwa ar y sgiliau sy'n gysylltiedig â dysgu iaith, a dylem wneud popeth y gallwn i'w hannog a'u galluogi i wneud hynny."

Kirsty Williams AC Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

"Rydw i am i'n dysgwyr fod mewn sefyllfa i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a gynigir gan yr economi fyd-eang."

Ychwanegodd yr Athro Claire Gorrara, Academydd Arweiniol y prosiect:"Mae'r peilot wedi datblygu partneriaethau llwyddiannus ledled Cymru gan adeiladu cymuned iaith fodern sy'n dod â phrifysgolion, consortia addysgol ac ysgolion ynghyd. Mae'r model partneriaeth yma wedi llwyddo i gefnogi ieithyddion ifanc modern yng Nghymru..."

“Yn sgîl y bleidlais yn y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae hyrwyddo ieithoedd modern yn arbennig o bwysig. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i bobl ifanc feithrin sgiliau ieithyddol a rhyngddiwylliannol a fydd yn eu helpu i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol, ac i gystadlu ar lwyfan byd-eang.”

Yr Athro Claire Gorrara Dean for Research and Innovation for the College of Arts, Humanities and Social Sciences, Professor of French Studies

Mae peilot Mentora Ieithoedd Tramor Modern wedi creu model partneriaeth llwyddiannus sy'n dod ag ysgolion, y pedwar consortia addysg a phedair o brifysgolion Cymru ynghyd.

Rhannu’r stori hon

We offer a range of resources and workshops aimed at school pupils.