Ewch i’r prif gynnwys

Menter Caerdydd-IQE yn ennill Gwobr £1m

28 Tachwedd 2016

Computer electronic circuit board

Mae menter ar y cyd rhwng Caerdydd a IQE wedi cael £1.1m i ddatblygu proses laser deuod ar gyfer gweithgynhyrchu.

Bydd y cyllid gan Innovate UK yn helpu'r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd i ddatblygu sglodion laser cost isel sy'n gallu cyflymu cyfathrebu opteg ffibrau.

Sefydlwyd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ym mis Awst 2015 fel menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd, un o brifysgolion ymchwil mwyaf blaenllaw Prydain, ac IQE plc, prif ddarparwr wafferi lled-ddargludyddol cyfansawdd y byd.

Nod y Ganolfan yw gweithio gyda Compound Semiconductor Technologies(Glasgow) a Phrifysgol Abertawe i drosglwyddo'r ymchwil ynglŷn â gweithgynhyrchu ar raddfa fawr mewn dwy flynedd.

Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Wyn Meredith: "Mae gwasanaethau cwmwl, fideo ar alwad a gwasanaethau rhyngrwyd newydd yn ysgogi cynnydd enfawr yn y galw am led band data ledled y byd..."

"Mae'r DU eisoes yn chwarae rhan fawr o ran cyflenwi deunydd ac ategolion lled-ddargludyddol cyfansawdd perfformiad uchel sy'n sail i'r rhwydwaith opteg ffibrau byd-eang. Fodd bynnag, bydd angen ffynonellau laser sy'n costio llai ond yn perfformio'n well ar gyfer y genhedlaeth nesaf o rwydweithiau capasiti uchel."

Dr Wyn Meredith Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Cyfarwyddwr

Nod y prosiect yw dod â sglodion laser i'r farchnad sydd rhwng 20% a 30% yn rhatach i'w cynhyrchu.

Mae cyllid y Ganolfan yn rhan o gronfa gwobrau gwerth £25m i helpu busnesau yn y DU i ddatblygu dulliau a deunyddiau gweithgynhyrchu newydd. Dyfarnwyd gwobrau i 170 o bartneriaid mewn 64 o brosiectau a oedd yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth deunyddiau a gweithgynhyrchu.

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.