Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd: Prifddinas Greadigol

17 Tachwedd 2016

James and the Giant Peach at City Hall
© Tom O'Neill

Mae tîm economi creadigol Prifysgol Caerdydd yn cynnull symposiwm i ystyried yr elfennau a geir mewn dinas greadigol, mewn partneriaeth â British Council Cymru.

Mae Caerdydd: Prifddinas Greadigol yn ymateb i ymwybyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd yr economi greadigol, nid yn unig o ran ei chyfraniad at ansawdd bywyd pobl, ond fel rhan benodol o'r economi yn ei rhinwedd ei hun.

Bydd y digwyddiad yn tynnu ar yr hyn a ddysgwyd o flwyddyn gyntaf Rhwydwaith Caerdydd Creadigol - prosiect â'r nod o gadarnhau Caerdydd fel dinas greadigol, gyda sector diwylliannol sylweddol sydd yn rhan o ffabrig bywyd y ddinas ac sydd hefyd yn gonglfaen ei heconomi.

Gyda chefnogaeth British Council Cymru, bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys themâu a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn sgil ymchwil ehangach a safbwyntiau meddylwyr blaenllaw yn yr economi greadigol.

Cyflwynir y brif araith gan yr economegydd blaenllaw yn y maes hwn, a Chyfarwyddwr Economi Greadigol mewn Polisi ac Ymchwil yn Nesta, Hasan Bakhshi.

Deiliad Cadair yr Economi Ddigidol ym Mhrifysgol Caerdydd, yr Athro Ian Hargreaves, fydd yn cadeirio'r symposiwm. Dywedodd: "Caiff Caerdydd ei hyrwyddo fel dinas wych i fyw ynddi. Mae hynny'n iawn, ond rydym ni am ychwanegu bod dinas braf i fyw ynddi yn ddinas greadigol..."

"Mae gwaith Caerdydd Creadigol yn ymwneud â chynyddu momentwm economi greadigol y ddinas rhanbarth, fydd yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn darparu swyddi, ffyniant a ffordd gyfoethocach o fyw."

Yr Athro Ian Hargreaves Professor of Digital Economy

"Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio i ddatblygu'r sgwrs mae Caerdydd yn ei chael gyda dinasoedd creadigol eraill ac edrych ar anghenion y sector creadigol, mewn meysydd fel seilwaith digidol ac addysg."

Dywedodd Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau yn British Council Cymru: "Mae ymchwil Rhwydwaith Caerdydd Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn allweddol i ddwysau ein dealltwriaeth o economi greadigol ffrwythlon Caerdydd a bydd yn darparu tystiolaeth empirig gadarn o statws y ddinas fel un o ganolfannau creadigol craidd y DU. Mae'r symposiwm yn cynnig cyfle i ni rannu'r ymchwil hwn gyda chynulleidfa eang; i fywiogi, ysbrydoli ac addysgu..."

"Mae creadigrwydd, boed yn dod o lawr gwlad, gan sefydliadau annibynnol neu ddiwydiannau ffurfiol sefydledig, yn rhedeg drwy enaid Cymru. Mae Caerdydd, fel prif ddinas, mewn sawl ffordd yn ganolog i hyn. Mae cefnogi rhwydwaith greadigol Caerdydd yn bwysig nid yn unig o safbwynt economaidd ond hefyd o safbwynt cymdeithasol.”

Rebecca Gould Pennaeth y Celfyddydau yn British Council Cymru

Nod allweddol sydd gan y prosiect Economi Greadigol a Rhwydwaith Caerdydd Creadigol yw sicrhau gwell dealltwriaeth o economi greadigol Caerdydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gan mai ychydig o ddata cyfredol sydd ar gael am siâp, cymeriad ac ehangder yr economi greadigol yng Nghaerdydd, mae ymchwil mapio wedi'i gynnal i ganfod y bobl, sefydliadau a busnesau hynny sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol.

Caiff yr adroddiad dilynol, Mapio Economi Greadigol Caerdydd, ei ddosbarthu yn symposiwm Caerdydd: Prifddinas Greadigol gan yr Athro Justin Lewis o Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.

Mae Caerdydd: Prifddinas Greadigol ddydd Iau, 8 Rhagfyr rhwng 9.30am a 4pm yn Adeilad Hadyn Ellis Prifysgol Caerdydd. I sicrhau lle am ddim, cofrestrwch ar Eventbrite.

Rhannu’r stori hon

Ymunwch â'n rhwydwaith ar gyfer cymuned greadigol y brifddinas.