Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr £10m yn creu canolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

5 Rhagfyr 2016

Compound semiconductor

Mae gwobr £10 m a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran ymchwil i dechnoleg arloesol Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Bydd yr arian gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn dod ag academyddion y DU a byd diwydiant ynghyd mewn canolfan a fydd yn arbenigo ar led-ddargludyddion cyfansawdd.

Bydd Canolfan Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol EPSRC yn gweithio'n agos gyda’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd(CSC) – partneriaeth rhwng Caerdydd ac IQE, gwneuthurwr wafferi lled-ddargludyddion uwch byd-eang.

Prifysgol Caerdydd fydd yn arwain y ganolfan gyda thri phartner academaidd allweddol: Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Sheffield.

Bydd 26 cwmni a sefydliad cychwynnol arall sy’n perthyn i’r Ganolfan yn helpu Caerdydd a bydd Cymru’n elwa ar £50m Catapwlt Ceisiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a gyhoeddwyd gan Innovate UK ym mis Ionawr.

Meddai Julie James AC, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru: "Mae arloesi wrth wraidd Strategaeth Llywodraeth Cymru..."

"Mae arloesi wrth wraidd Strategaeth Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i wneud ymyriadau strategol i gefnogi sectorau diwydiannol lle mae gan Gymru eisoes arbenigedd academaidd a diwydiannol sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, lle mae gennym fusnesau a all fanteisio ar y wybodaeth hon a lle mae marchnad fyd-eang sylweddol bosibl."

Julie James Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth

“Bydd y Ganolfan yn rhoi sylw byd-eang i Gymru ac mae’n enghraifft o sut bydd ymagweddu Clyfar Llywodraeth Cymru at arloesi o fudd i bobl a busnesau Cymru.”

Ar un adeg roedd silicon yn sail i’r gymdeithas wybodaeth, ond mae’r dechnoleg yn cyrraedd terfynau sylfaenol yn yr 21ain ganrif. Cymhwyso gwybodaeth am led-ddargludyddion cyfansawdd i dechnegau gweithgynhyrchu silicon fydd prif ganolbwynt y fenter newydd.

Meddai’r Athro Peter Smowton, Cyfarwyddwr y Ganolfan, "Bydd y Ganolfan yn cynnig cyfleusterau gorau Ewrop a fydd yn troi ymchwil yn dwf lled-ddargludyddion cyfansawdd ac yn weithgynhyrchu dyfeisiadau ar raddfa fawr..."

“Many advances in our daily lives depend upon CS technology. The new Hub will allow Cardiff and its partner Universities and companies to continue to develop technology that enables emerging trends, such as self-drive vehicles and 5G communications.”

Yr Athro Peter Smowton Cyfarwyddwr y Ganolfan EPSRC ar gyfer Gweithgynhyrchu Lled-ddargludyddion Cyfansawdd y Dyfodol

Meddai Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd: “Cynhyrchodd IQE ddeunyddiau lled-ddargludyddion cyfansawdd ar gyfer 10 biliwn o sglodion diwifr y llynedd, a hynny’n sail i’r diwydiant cyfathrebu symudol ledled y byd. Bydd y Ganolfan yn ein galluogi i fanteisio ar nodweddion hynod fanteisiol electronig, magnetig, ac optegol Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, a’u gallu i drin pŵer, tra byddwn yn defnyddio cost a manteision graddio technoleg silicon lle mae fwyaf addas.”

Cafodd partner prosiect arall y Ganolfan, Oclaro, gwneuthurwr cydrannau optegol o UDA, dwf o 50% y chwarter hwn o’i gymharu â’r chwarter diwethaf wrth gynhyrchu trawsdderbynyddion 100 Gbit a ddatblygwyd ac a weithgynhyrchwyd yn y DU, a hynny’n cynorthwyo cyfathrebu ar y Rhyngrwyd.

Nod y Ganolfan yw cynyddu partneriaethau tymor hir i’r dyfodol â chwmnïau ac academyddion y DU ac yn rhyngwladol.

Ychwanegodd Peter Smowton: "Rydym yn agored i ryngweithio gyda chwmnïau partner a phrifysgolion newydd, a gallwn gynnig cyfleoedd drwy alwadau am arian prosiectau dichonoldeb i roi hwb i bartneriaethau’r dyfodol sydd â’r gallu i newid y ffordd rydym yn byw."

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.